1Yna yr attebodd Eliphaz y Temaniad, a dywedodd,
2Ai i Dduw y gwna gwr leshâd?
— (Nage), ond lleshâd iddo ef ei hun a wna ’r hwn sy’n synhwyrol.
3Ai matter i’r Hollalluog (yw) os tydi wyt gyfiawn,
Ac ai elw (Iddo) os perffeithi dy ffyrdd?
4Ai rhag ofn o honot, yr ymddadleu Efe â thi,
Y bydd Iddo fyned gyda thi i farn?
5Onid (yw) dy ddrygioni yn aml,
Ac (onid) heb ddiwedd dy gamweddau?
6Canys cymmerit wystl gan dy frawd yn ddïachos,
A dillad y tlodwisg a ddïosgit;
7Dim dwfr i’r lluddedig ni roddit i’w yfed,
Ac oddi wrth y newynog yr attelit fara;
8 — Ond y dyn braich(-gadarn), ganddo ef (yr oedd) y ddaear,
A’r dyrchafedig ei wyneb a drigai ynddi! —
9 breichiau’r amddifaid a dorrid;
10Gan hynny o’th amgylch maglau (sydd),
A dy ddychrynu y mae arswyd yn ddisymmwth,
11 Onid (yw) Duw cyn uched a’r nef?
A gwel goryn y ser, mor uchel ydynt!
13A dywedi di, “Pa beth a ŵyr Duw?
Ai o’r tu ol i’r cwmmwl tywyll y barn Efe?
14Y cymmylau tewion (ydynt) orchudd Iddo fel na welo,
Ac ar gylch y nefoedd yr ymrodia Efe.”
15Ai at lwybr yr hên amser y cedwi di,
Yr hwn a sathrodd pobl bechadurus,
16Y rhai a rwymwyd, a hi heb fod yn amser,
(Ac) afon a dywalltwyd ar eu sylfaen,
17 Y rhai a ddywedasant wrth Dduw “Cilia oddi wrthym,”
A, “Pa beth a wnae yr Hollalluog iddynt hwy?”
18Ac, “Efe a lanwodd eu tai o wynfyd,”
A, “Cynghor yr annuwiolion sydd bell oddi wrthyf fi:”
19Gweled (hyn) y mae ’r rhai cyfiawn ac yn llawenychu,
A’r dïeuog sydd yn eu gwatwar, (gan ddywedyd)
20“Oni thorrwyd ymaith ein gwrthwynebwŷr?
A’u helaethrwydd a fwyttâodd tân.”
21Ymgyfeillach, attolwg, âg Ef, a bydd heddychol,
Trwy hyn y daw i ti ddaioni;
22 Cymmer, attolwg, addysg o’i enau Ef,
A dod Ei eiriau Ef yn dy galon:
23 Os dychweli at yr Hollalluog, ti a adeiledir,
(Os) pellhêi ddrygioni oddi wrth dy babell:
24 Tafl ar y ddaear ddelid,
Ac i gerrig yr afon (aur) Ophir;
25Yna y bydd yr Hollalluog yn ddelid i ti,
Yn arian (fel) uchelderau ’r mynyddoedd i ti;
26Canys yna yn yr Hollalluog yr ymhyfrydi,
Ac y dyrchefi dy wyneb at Dduw,
27Y gweddii arno Ef ac Efe a’th wrendy,
A’th addunedau y bydd i ti eu talu,
28Ac y pennodi beth ac efe a saif i ti,
Ac ar dy ffyrdd y llewyrcha goleuni;
29Os gostyngir (dy ffyrdd) ti a ddywedi “Dyrchafiad (fydd),”
A phan (fyddych) ddarostyngedig dy lygaid, y gweryd Efe;
30 Yr achub Efe y nid-dieuog,
Ac achubedig a fydd (hwn) trwy lendid dy ddwylaw di.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.