1 24:1 Tybiaf y cyfeirir yn y Psalm hon at gludiad Arch y Cyfammod i Ierwshalem. Psalm o eiddo Dafydd.
Eiddo Iehofah y ddaear a’i chyflawnder,
Y byd a’r preswylwyr ynddo,
2Canys Efe—ar foroedd y seiliodd Efe hi,
Ac ar ffrydiau y’i sicrhäodd.
3Pwy a esgyn i fynydd Gwel Eshaiah 33:14-16.Iehofah,
A phwy a saif yn sefyllfa Ei Sancteiddrwydd Ef?
4—Y glân ei ddwylaw a’r pur ei galon,
Yr hwn na ddyrchafo ei enaid at ddrygioni,
Ac na thyngo er mwyn twyll; —
5Fe dderbyn (hwn) fendith gan Iehofah,
A chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth:
6Dyma genhedlaeth y rhai sy’n chwilio am dano Ef,
Y rhai sy’n ceisio Dy wyneb Di, O Dduw Iacob. Selah.
7Dyrchefwch, chwi byrth, eich pennau,
Ac ymddyrchefwch, ddrysau tragywyddol,
Canys dyfod y mae Brenhin y Gogoniant!
8“Pwy (yw) y Brenhin Gogoniant hwn?”
—Iehofah, y Nerthol a Chadarn,
Iehofah, y Cadarn mewn rhyfel.—
9Dyrchefwch, chwi byrth, eich pennau,
Ac ymddyrchefwch, ddrysau tragywyddol,
Canys dyfod y mae Brenhin y Gogoniant!
10“Pwy (yw) efe—y Brenhin Gogoniant hwn?”
—Iehofah y lluoedd,
Efe (yw) Brenhin y Gogoniant.—Selah.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.