Eshaiah 15 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XV.

1 yr ymadrodd ynghylch moab.

O herwydd y nos y distrywiwyd Ar, Moab a ddistawyd,

O herwydd y nos y distrywiwyd Cir, Moab a ddistawyd;

2Efe a aiff i fynu i Beth-Dibon, i’r uchelfeydd, i wylo,

Am Nebo ac am Medeba y bydd i Moab udo;

Ar bob pen y mae moelni, pob barf a eilliwyd.

3Yn ei heolydd yr ymwregysant â sachlïain;

Ar bennau ei thai ac yn ei heolydd

Y mae pob un yn udo, (ac) yn disgyn gan wylo.

4Gwaeddi y mae Heshbon ac Elealah,

Hyd Iahats y clywir eu llefain hwynt;

Am hynny llwynau Moab a floeddiant,

Ar ei heinioes y blina hi.

5Calon Moab sy’n gwaeddi yn ei hyspryd

Hyd Tsoar, fel anner deirblwydd;

Ië, gallt Lwhith gan wylo a ddringant hwy,

Ië, (ar hyd) ffordd Horonäin gwaedd dinystr a godant hwy;

6O herwydd dyfroedd Nimrim yn anial a fyddant,

Canys gwywodd y gwair, darfu ’r glaswellt, gwyrddlesni nid oes (mwyach.)

7Am hynny y golud a ennillasant a dderfydd,

A’r hyn a roisant i gadw, i ddyfryn yr helyg a ddygant hwy.

8Canys fe amgylchyna ’r gwaeddi derfyn Moab;

Hyd Egläim (y mae) ’r udfa, hyd Beer-Elim yr udfa.

9Ië, dyfroedd Dimon a lanwyd o waed;

Etto gosodaf ar Ddimon ychwaneg,

Ar ddiangcedigion Moab ac Ariel, ac ar weddill Admah.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help