1Psalm, i Asaph.
Duw a ymorsaif yn y gynnulleidfa alluog,
Hyd pa hyd y bernwch ar gam,
A gwyneb yr annuwiolion a dderbyniwch? Selah.
3Bernwch yr anghenus a’r ymddifad,
I’r cystuddiedig a’r rheidus gwnewch uniondeb,
4Rhowch ddiangc i’r anghenus a’r digymmorth,
O law yr annuwiolion achubwch (hywnt)!
5Ni wyddant ddim, ac ni ddeallant,
Mewn tywyllwch yr ymrodiant;
Siglo y mae holl seiliau ’r ddaear!
6Myfi a feddyliais mai duwiau chwychwi,
A meibion y Goruchaf (oeddech) chwi oll;
7Eithr fel dynion y byddwch farw,
Ac fel un o’r tywysogion y syrthiwch!”
8Cyfod, O Dduw, barna ’r ddaear,
Canys Tydi wyt arglwydd ar yr holl genhedloedd!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.