1I’r blaengeiniad. Psalm o eiddo Dafydd.
2Clyw, O Dduw, fy llef yn fy nghwynfan!
Rhag arswyd y gelyn cadw Di fy einioes!
3Cudd fi rhag cyfrinach y drygionus rai,
Rhag terfysg gweithredwyr anwiredd,
4Y rhai a hogant eu tafod, fel cleddyf,
A annelant eu bwa, (sef) ymadrodd chwerw,
5I saethu mewn ymguddfëydd ar y diniweid;
Yn ddisymmwth y saethant arno ac nid ofnant!
6Cadarnhânt iddynt eu hunain beth drwg,
Ymchwedleuant i guddio maglau,
Dywedant, “Pwy a’u gwêl hwynt?”
7Dyfeisiant anwireddau,
Cuddiant y ddyfais a ddyfeisiwyd,
A cheudod pob un a(’i) galon (sydd) ddofn:
8Ond eu saethu hwynt a wna Duw,
Saeth ddisymmwth (fydd) eu tarawiadau,
9A syrthiant, arnynt (y rhuthra) eu tafod,
Encilia pob un a syllai arnynt:
10Ac ofni a wna dynion oll,
A mynegi gweithred Duw,
A’i waith Ef a ddoeth-ystyriant;
11Llawenycha’r cyfiawn yn Iehofah, ac ymddirieda Ynddo,
A gorfoledda’r holl rai uniawn o galon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.