1Molwch Iah!
Molwch enw Iehofah!
Molwch, O weision Iehofah,
2Y rhai ŷch yn sefyll yn nhŷ Iehofah,
Ynghynteddoedd tŷ ein Duw!
3Molwch Iah, canys da (yw) Iehofah,
Tarewch y tannau i’w enw, canys hyfryd (yw)!
4Canys Iacob a ddewisodd Iah Iddo Ei hun,
(Ac) Israel yn brïodoriaeth Iddo!
5Canys myfi a wn mai mawr (yw) Iehofah,
Ac (mai mawr yw) ein Harglwydd rhagor yr holl dduwiau!
6Yr oll a’r a fynnodd a wnaeth Efe,
Yn y nefoedd ac ar y ddaear,
Yn y môr a’r holl ddyfnderau!
7Yr Hwn sy’n peri i’r cymmylau esgyn o eithafoedd y ddaear;
Y mellt a wna Efe yn wlaw!
Yr Hwn sy’n dwyn allan y gwỳnt o’i drysorau!
8Yr Hwn a darawodd gyntaf-anedigion yr Aipht
O ddyn hŷd anifail;
9A ddanfonodd arwyddion a rhyfeddodau i’th ganol di, yr Aipht,
Ar Pharaoh, ac ar ei holl weision!
10Yr Hwn a darawodd genhedloedd lawer,
Ac a laddodd frenhinoedd cedyrn,
11Sihon brenhin yr Amoriaid,
Ac Og brenhin Bashan,
A holl frenhiniaethau Canaan;
12A rhoddodd Efe eu tir hwynt yn etifeddiaeth,
Yn etifeddiaeth i Israel Ei bobl!
13O Iehofah, Dy enw (sydd) yn dragywydd,
O Iehofah, Dy goffadwriaeth (sydd) i genhedlaeth a chenhedlaeth;
14Canys barna Iehofah Ei bobl,
Ac wrth Ei weision y tosturia Efe!
15Delwau y cenhedloedd (ydynt) arian at aur,
Gwaith dwylaw dyn;
16Genau (sydd) ganddynt,—ond ni lefarant,
Llygaid ganddynt,—ond ni welant;
17Clustiau ganddynt,—ond ni chlust-ymwrandawant,
Ac nid oes anadl yn eu genau:
18Tebyg iddynt fydded eu gwneuthurwyr,
(A) phob un a ymddiriedo ynddynt!
19Tŷ Israel, bendithiwch Iehofah!
Tŷ Aharon, bendithiwch Iehofah!
20Tŷ Lefi, bendithiwch Iehofah!
Y rhai sy’n ofni Iehofah, bendithiwch Iehofah!
21Bendigedig (fo) Iehofah o Tsïon,
Yr Hwn sy’n preswylio Ierwshalem!
Molwch Iah!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.