Hebreaid 11 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac y mae ffydd yn sicrwydd y pethau y gobeithir am danynt,

2yn brawf pethau na welir: canys trwyddi y tystiolaethwyd i’r henuriaid.

3Trwy ffydd y deallwn y ffurfiwyd y bydoedd gan air Duw, fel nad o bethau yn ymddangos y cafodd yr hyn a welir ei wneuthur.

4Trwy ffydd, gwell aberth na Chain a offrymmodd Abel i Dduw; trwy’r hon y tystiolaethwyd iddo ei fod yn gyfiawn, gan dystiolaethu o Dduw ar ei roddion ef; a thrwyddi, wedi marw o hono, etto y llefara.

5Trwy ffydd, Enoch a drosglwyddwyd, fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, o herwydd ei drosglwyddo gan Dduw; canys cyn ei drosglwyddiad, tystiolaethwyd iddo y rhyngodd fodd Duw;

6ac heb ffydd ammhosibl yw rhyngu Ei fodd Ef, canys credu y mae rhaid i’r hwn sy’n dyfod at Dduw, Ei fod Efe; ac i’r rhai sydd yn Ei geisio, Ei fod yn obrwywr.

7Trwy ffydd, Noah, wedi ei rybuddio am y pethau na welid etto, gydag ofn duwiol, a ddarparodd arch er achubiaeth ei dŷ; a thrwyddi y condemniodd y byd, ac o’r cyfiawnder y sydd yn ol ffydd y’i gwnaed yn etifedd.

8Trwy ffydd, pan alwyd arno, Abraham a ufuddhaodd i fyned allan i’r lle yr oedd efe ar fedr ei dderbyn yn etifeddiaeth; ac aeth allan heb wybod i ba le yr oedd yn myned;

9trwy ffydd y bu yn ymdeithydd yn nhir yr addewid fel tir dieithr, ac mewn pebyll yn trigo, ynghydag Itsaac ac Iacob, cyd-etifeddion o’r un addewid,

10canys disgwyliai am y ddinas a sylfeini ganddi, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw.

11Trwy ffydd, Sarah hefyd, ei hun a dderbyniodd allu i feichiogi, ac wedi amser oedran, canys ffyddlawn a farnodd hi yr Hwn a addawsai;

12o herwydd paham hefyd o un y cenhedlwyd (a hyn hefyd, wedi marweiddio o hono,) fel ser y nefoedd mewn lliaws, ac fel y tywod ar lan y môr, y sydd yn aneirif.

13Mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oll, heb dderbyn o honynt yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt a’u cofleidio, ac wedi cyfaddef mai dieithriaid ac alltudion oeddynt ar y ddaear:

14canys y rhai sy’n dywedyd y cyfryw bethau, a ddangosant yn eglur mai mam-wlad y maent yn ei cheisio.

15Ac yn wir, ped am honno y buasent yn cofio, o’r hon yr aethant allan, buasai ganddynt amser i ddychwelyd;

16ond yn awr un well y maent yn ei chwennych, hyny yw, un nefol; o herwydd paham nid oes cywilydd o honynt gan Dduw, i’w alw eu Duw hwynt, canys parottodd iddynt ddinas.

17Trwy ffydd yr offrymmodd Abraham Itsaac, yn cael ei brofi; ac ei unig-anedig a offrymmai yr hwn a dderbynodd yr addewidion,

18wrth yr hwn y dywedwyd, “Yn Itsaac y gelwir i ti fab,”

19yn cyfrif mai hyd yn oed o feirw y mae Duw yn alluog i gyfodi dyn; ac oddi yno mewn dammeg y cafodd efe ef hefyd.

20Trwy ffydd, hyd yn oed am bethau i ddyfod y bendithiodd Itsaac Iacob ac Esau.

21Trwy ffydd, Iacob, pan yn marw, a fendithiodd bob un o feibion Ioseph, ac a addolodd a’i bwys ar ben ei ffon.

22Trwy ffydd, Ioseph, pan yn trengu, am y mynediad allan gan feibion Israel y coffhaodd, ac am ei esgyrn y gorchymynodd.

23Trwy ffydd, Mosheh, wedi ei eni, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos gweled o honynt mai tlws oedd y plentyn; ac nid ofnasant orchymyn y brenhin.

24Trwy ffydd, Mosheh, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharaoh,

25gan ddewis yn hytrach ei ddrygu ynghyda phobl Dduw, na chael mwynhad pechod, byr ei amser,

26gan farnu mai yn fwy golud na thrysorau’r Aipht yr oedd gwaradwyddiad Crist, canys edrychai ar daledigaeth y gobrwy.

27Trwy ffydd y gadawodd yr Aipht, heb ofni llid y brenhin, canys fel yn gweled Yr Anweledig yr ymwrolodd.

28Trwy ffydd y cadwodd y Pasg a thaenelliad y gwaed, fel na byddai i’r hwn oedd yn dinystrio y rhai cyntaf-anedig gyffwrdd â hwynt.

29Trwy ffydd yr aethant trwy’r Môr Coch fel ar dir sych, o’r hwn Fôr, pan prawf a wnaeth yr Aiphtiaid, llyngcwyd hwynt.

30Trwy ffydd, caerau Iericho a syrthiasant wedi eu hamgylchu saith niwrnod.

31Trwy ffydd, Rahab y buttain ni ddifethwyd ynghyd â’r rhai a fuant anufudd, wedi derbyn o honi yr yspïwyr mewn heddwch. A pha beth etto a ddywedaf?

32canys pallu i mi a wna’r amser, wrth ddywedyd am Gedeon, Barac, Samson, Iephtha, a Dafydd, a Shamwel a’r prophwydi;

33y rhai, trwy ffydd, a orchfygasant deyrnasoedd, a weithredasant gyfiawnder, a gawsant addewidion,

34a gauasant safnau llewod, a ddiffoddasant allu tân, a ddiangasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd allan o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a wnaethant i fyddinoedd estroniaid droi eu cefnau.

35Derbyniodd gwragedd, trwy adgyfodiad, eu meirw; ac eraill a dorrwyd ar yr olwyn, yn ymwrthod â’r ymwared, fel gwell adgyfodiad y caffent.

36Ac eraill, o watwar a fflangellau y cawsant brawf, ïe, ac o rwymau a charchar.

37Llabyddiwyd hwynt; â llif y torrwyd hwynt, temtiwyd hwynt, trwy lofruddiaeth cleddyf y buant feirw; rhodient o amgylch mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghenus,

38yn cael eu gorthrymmu, yn cael eu drygu, (ac o honynt nid oedd y byd yn deilwng,) mewn anial-leoedd y crwydrent, a mynyddoedd, a thyllau ac ogofeydd y ddaear.

39A’r rhai hyn oll, tystiolaeth wedi ei dwyn iddynt trwy ffydd, ni dderbyniasant yr addewid,

40Duw wedi darparu am danom ryw beth gwell, fel nad yn wahan oddi wrthym y perffeithid hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help