1Cân y graddau. Eiddo Dafydd.
O Iehofah, nid balch yw fy nghalon, nid dyrchafedig yw fy llygaid,
Ac ni rodiaf mewn pethau rhy fawr, a rhy anhawdd i mi!
2Yn ddiau llyfnais a gostegais fy enaid;
Fel un a ddiddyfnwyd, gyda’i fam,
Felly diddyfnedig ynof (yw) fy enaid!
Gobeithied Israel yn Iehofah,
O’r pryd hwn ac yn dragywydd!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.