Iöb 10 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

X.

1Ffieiddio fy mywyd y mae fy enaid,

Gollyngaf fy nghwyn arnaf fy hun,

Llefaraf yn chwerwder fy enaid:

2Dywedaf wrth Dduw, “Na farn fi yn euog,

Gwna i mi wybod pa ham yr amrafaeli â mi:

3Ai da gennyt orthrymmu,

Diystyru llafur Dy ddwylaw,

Ac ar gynghor yr annuwiolion daenu llewyrch?

4 Ai llygaid cnawd (sydd) gennyt Ti?

(Ac) fel y gwel adyn yr wyt Ti yn gweled?

5Ai fel dyddiau adyn Dy ddyddiau Di,

A’th flynyddoedd Di fel dyddiau gwr,

6Fel y chwili am fy anwiredd,

Ac am fy mhechod ymofyn,

7Er gwybod o honot nad wyf yn euog,

Ac (er) nad oes a waredo o’th law Di?

8Dy ddwylaw Di a ddyfal-lafuriasant arnaf,

Ac a’m gwnaethant i gyd o bob tu, — ac yr wyt yn fy nifetha;

9 Cofia, attolwg, mai fel (ped fuaswn) glai y gwnaethost fi,

Ac i’r pridd y’m dychweli:

10 Onid fel llaeth y’m tywelltaist,

Ac fel maidd y’m ceulaist?

11A chroen ac â chnawd y gwisgaist fi,

Ag esgyrn ac â giau yr amgaeaist fi:

12 Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi,

A’th ymgeledd a gadwodd fy yspryd.

13Ond hyn Ti a guddiaist yn Dy galon,

Gwn (fod) hyn gyda Thi,

14(Sef) os pechwn y gwylit am danaf,

Ac oddi wrth fy anwiredd na ’m gollyngit yn rhydd,

15Os euog a fyddwn gwae fyddai i mi,

Os yn gyfiawn na chodwn fy mhen

Gan fod yn orlawn o warth, ac yn gweled fy ngostyngiad,

16Ac os ymdderchafai, fel llew y’m helit,

Ac y dychwelit Dy ryfeddodau arnaf,

17Yr adnewyddit Dy dystion i’m herbyn,

Ac yr amlhäit Dy ddigllonedd arnaf,

Lluoedd yn olynol i’m herbyn.

18Pa ham, gan hyny, y dygaist fi allan o’r groth?

Ped fuaswn marw, a llygad ni ’m gwelsai,

19Yna y buaswn megis pe na buaswn,

O’r bru i’r bedd y’m dygasid.”

20Onid ychydig fy nyddiau? — peidied Ef!

Symmuded Ei law oddi arnaf fel yr ymsiriolwyf ychydig

21Cyn myned o honof, ac heb ddychweliad i mi,

I dir tywyllwch a chysgod angeuaidd,

22Tir caddug fel y fagddu,

(Tir) cysgod angeuaidd ac heb drefn,

Disgleirio a wna efe fel y fagddu!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help