Psalmau 46 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XLVI.

1I’r blaengeiniad. I feibion Corah. Soprano. Cân.

2Duw (sydd) i ni yn noddfa a nerth,

Cymmorth yngyfyngderau y canfyddwyd Ef yn ddirfawr;

3Gan hynny nid ofnem pe newidiai Efe y ddaear,

Ac wrth honcian o’r mynyddoedd i galon y moroedd,

4Pe rhuai, pe berwai Ei ddyfroedd Ef,

Pe cynhyrfer y mynyddoedd gan ei ardderchowgrwydd Ef. Selah.

5Afon (a)’i ffrydanau sy’n llawenhâu dinas Dduw,

Cyssegr preswylfeydd y Goruchaf;

6Duw (sydd) ynddi hi,—nid ysgog hi,

Duw a’i cynnorthwya ar ddychweliad y bore.

7Rhuodd y cenhedloedd,—ysgogodd teyrnasoedd,

Rhoddodd Efe Ei lais,—ymddattododd y ddaear.

8Iehofah y lluoedd (sydd) gyda ni,

Uchelfa i ni (yw) Duw Iacob! Selah.

9Deuwch, edrychwch ar weithredoedd Iehofah,

Yr Hwn a wnaeth bethau aruthrol ar y ddaear,

10Yr Hwn a ettyl ryfeloedd hyd eithaf y ddaear,

Y bwa a chwilfriwia Efe,—tyr ymaith flaen y waywffon,

Y cerbydau a lysg Efe mewn tân.

11 “Peidiwch, a chydnabyddwch mai Myfi (sy) Dduw,

Dyrchafedig wyf ymhlith y cenhedloedd, Dyrchafedig wyf ar y ddaear.”

Iehofah y lluoedd (sydd) gyda ni,

Uchelfa i ni (yw) Duw Iacob! Selah.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help