I. Ioan 1 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Yr hyn oedd o’r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â’n llygaid, yr hyn yr edrychasom arno, ac ein dwylaw a gyffyrddasant ag ef, am Air y bywyd;

2(ac y bywyd a amlygwyd, a gwelsom, a thystiolaethu yr ydym ac yn mynegi i chwi y bywyd tragywyddol, yr Hwn oedd gyda’r Tad ac a amlygwyd i ni;)

3yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi hefyd i chwi, fel y byddoch chwi hefyd a chennych gymdeithas gyda ni; ac ein cymdeithas ni, gyda’r Tad a chyda’i Fab Ef Iesu Grist y mae.

4A’r pethau hyn yr ydym ni yn eu hysgrifenu fel y bo eich llawenydd wedi ei gyflawni.

5A hon yw’r genadwri a glywsom ganddo Ef, ac yr ydym yn ei mynegi i chwi, sef, Duw, goleuni yw, a thywyllwch Ynddo Ef nid oes mo’no.

6Os dywedwn fod cymdeithas genym ag Ef, ac yn y tywyllwch y rhodiwn, celwyddu yr ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd;

7ond os yn y goleuni y rhodiwn, fel y mae Efe yn y goleuni, cymdeithas sydd genym â’n gilydd, a gwaed Iesu, Ei Fab Ef, sydd yn ein glanhau oddiwrth bob pechod.

8Os dywedwn nad oes pechod genym, ni ein hunain a arweiniwn ar gyfeiliorn, a’r gwirionedd nid yw ynom.

9Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlawn yw Efe a chyfiawn, i faddeu i ni ein pechodau a’n glanhau oddiwrth bob anghyfiawnder.

10Os dywedwn, Ni phechasom, celwyddwr y’i gwnawn Ef, ac Ei air nid yw ynom.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help