1I’r blaengeiniad. (Ar don y gân) “Na ddistrywia.” Ysgrifen o eiddo Dafydd.
2Yn ddïau, O gedyrn, ai cyfiawnder a draethwch,
Ai mewn uniondeb y bernwch feibion dynion?
3Ac yn hytrach, yn y galon, drygioni a weithredwch,
(A) thrais ar y ddaear y mae eich dwylaw yn ei bwyso allan?
4Gwyrodd yr annuwiolion, o’r groth,
Cyfeiliornasant o’r bru gan ddywedyd celwydd;
5Gwenwyn (sydd) ganddynt, fel gwenwyn sarph,
Fel y wiber fyddar sy’n cau ei chlust,
6Yr hon ni wrendy ar lais y rhinwyr,
(Ar lais) y swynwr swynion cyfarwydd.
7O Dduw, distrywia eu dannedd yn eu genau,
Brathwyr y llewod ieuaingc dryllia Di, O Iehofah!
8Dattoder hwynt fel dyfroedd sy’n diflannu,
Anneled efe (’r bwa)—bydded ei saethau megis yn flaendorredig!
9Fel cŵyr tawdd sy’n myned ymaith,
(Fel) erthyl gwraig na welodd yr haul.
10Cyn i’ch annuwiol;
12A dywaid dynolryw, “Dïau (y mae) ffrwyth i ’r cyfiawn,
Dïau y mae Duwiau, yn barnu ar y ddaear.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.