1Yna yr attebod Eliphaz y Temaniad a dywedodd,
2Ai un doeth a ettyb â gwybodaeth wỳntawg,
Ac a leinw ei fòl â ’r dwyreinwỳnt?
3Ymresymmu â gair ni fuddia;
Ac ymadroddion, nid oes lleshâd ynddynt.
4 Ond tydi wyt yn diddymmu ofn (yr Arglwydd,)
Ac yn dwyn ymaith fyfyrio ger bron Duw.
5Dïau, hyspysu dy anwiredd y mae dy eiriau di,
Er dewis o honot dafod y celfydd;
6Dy fwrw yn euog y mae dy eiriau di, ac nid myfi,
A’th wefusau di sy’n tystiolaethu yn dy erbyn.
7 Ai yn gyntaf daearolyn y’th aned di,
Hŷn nâ’th dad di o ran dyddiau.
11 Ai rhy fychan i ti ddiddanwch Duw,
Ac ymddiddan addfwyn â thi?
12Pa beth sy’n dwyn ymaith dy feddwl i ti,
Ac i ba beth yr ysmicia dy lygaid,
13Fel yn erbyn Duw y tröit dy anadl,
Ac y dygit allan o’th enau ymadroddion?
14Pa beth (yw) adyn fel y byddai yn lân,
Ac yr ymgyfiawnhâai un ganedig o ddynes?
15Wele, yn Ei rai Sanctaidd nid ymddiried Efe,
A’r Nefoedd nid ydynt lân yn Ei olwg Ef;
16 Llawer mwy, ffiaidd a llygredig yw
Dyn sy’n yfed drygioni fel dwfr.
17Cyfarwyddaf di, gwrando arnaf,
A’r hyn a brofais, mi a’i mynegaf,
18Yr hyn ag y bu i’r doethion ei fynegi,
Ac heb encudd, oddi wrth eu tadau,
19I’r rhai, yn unig, y rhoddwyd y ddaear,
Ac na thramwyodd estron i’w plith;
20(Sef) holl ddyddiau yr annuwiol, y mae efe yn ymofidio,
A (holl) rifedi ’r blynyddoedd a’r a benderfynwyd i’r treisiol;
21Swn dychryniadau (sydd) yn ei glustiau ef,
Yn (amser) heddwch y dinystrydd sy’n dyfod arno;
22 Ni chrêd efe y dychwel allan o dywyllwch,
Wedi ei ethol y mae efe i’r cleddyf;
23Crwydro a wna efe am fara — i ba le?
Fe ŵyr mai parod, yn ei law, (yw) dydd tywyllwch;
24Ei frawychu ef y mae cystudd a chyfyngdra,
Ei orthrymmu ef y maent hwy fel brenhin parod i derfysg rhyfel;
25Am iddo estyn ei law yn erbyn Duw,
Ac yn erbyn yr Hollalluog ymfawrygu;
26 Am iddo redeg yn Ei erbyn Ef yn warsyth,
Gyda thewder torrau ei dariannau;
27Am iddo doi ei wyneb â’i frasder,
A gwneuthur bloneg ar ei denewynau:
28Efe a drig mewn dinasoedd dinystriedig,
(Mewn) tai nad oes neb yn preswylio ynddynt,
Y rhai a ddarparwyd i fod yn garneddau:
29Ni chaiff fod yn gyfoethog, ac ni saif ei olud ef,
Nid ymestyn ei feddiant ef at y ddaear;
30Nid ymedy efe allan o’r tywyllwch,
— Ei ysgewyll ef a wywa poethni —
Ond efe a ymedy trwy anadl Ei enau Ef:
31Nac ymddirieded efe mewn oferedd, — y twylledig —
Canys oferedd a fydd ei atdaliad ef.
32Pan nad yw (etto) ei hamser, y cyfleinw hi (ei dyddiau),
Ei gangen ef ni wyrddlasa;
33 Efe a ddihidla, fel gwinwŷdden, ei rawn anaddfed,
Ac a fwrw, fel olewŷdden, ei flodeuyn,
34Canys cynnullaid yr annuwiol a â yn ddiffrwyth-dawd,
A thân a fwytty bebyll ariandag:
35 Ymddwyn blinder, ac esgor ar wagedd!
A’u bôl a grëa dwyll.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.