S. Matthew 26 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A bu pan orphenodd yr Iesu yr holl eiriau hyn, y dywedodd wrth Ei ddisgyblion,

2Gwyddoch mai gwedi deuddydd y Pasg a ddigwydd, a Mab y Dyn a draddodir i’w groes-hoelio.

3Yna y casglwyd ynghyd yr archoffeiriaid ac henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaphas,

4a chydymgynghorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent Ef;

5a dywedasant, Nid ar yr wyl, rhag i gynnwrf gymmeryd lle ymhlith y bobl.

6A phan yr oedd yr Iesu yn Bethania, yn nhŷ Shimon y gwahan-glwyfus,

7daeth Atto wraig a chanddi flwch alabaster o ennaint tra gwerthfawr, ac y’i tywalltodd ar Ei ben Ef pan yn lled-orwedd wrth y ford.

8Ac wedi gweled hyn, y disgyblion a sorrasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu’r golled hon?

9Canys gallesid hyn gael ei werthu er llawer, a’i roddi i’r tlodion.

10A chan wybod o’r Iesu, dywedodd wrthynt, Paham mai blinder a berwch i’r wraig? Canys gwaith da a wnaeth hi Arnaf;

11canys peunydd y mae genych y tlodion gyda chwi; ond Myfi, nid beunydd yr wyf genych;

12canys wrth dywallt o honi yr ennaint hwn ar Fy nghorph, er Fy mharottoi i’r bedd y gwnaeth hi hyny;

13yn wir y dywedaf wrthych, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir hefyd yr hyn a wnaeth hi, er coffa am dani.

14Yna wedi myned o un o’r deuddeg, yr hwn a elwid Iwdas Ishcariot, at yr archoffeiriaid, dywedodd,

15Pa beth a ewyllysiwch ei roddi i mi, ac myfi a’i traddodaf Ef i chwi?

16A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian, ac o’r amser hwnw y ceisiai gyfleusdra i’w draddodi Ef.

17Ac ar y dydd cyntaf o’r bara croyw daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pa le yr ewyllysi barottoi o honom i Ti i fwytta’r Pasg?

18Ac Efe a ddywedodd, Ewch i’r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Yr Athraw a ddywaid, Fy amser sydd agos; yn dy dŷ di y cadwaf y Pasg ynghyd â’m disgyblion.

19A gwnaeth y disgyblion fel yr ordeiniasai yr Iesu iddynt, a pharottoisant y Pasg.

20A’r hwyr wedi digwydd, lled-orweddodd Efe wrth y ford ynghyd â’i ddeuddeg disgybl;

21ac wrth fwytta o honynt, dywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, Un o honoch a’m traddoda I.

22Ac wedi eu tristhau yn ddirfawr, dechreuasant ddweud Wrtho, pob un o honynt, Ai myfi yw, Arglwydd?

23A chan atteb, dywedodd, Yr hwn a drochodd, ynghyda Mi, ei law yn y ddysgl, hwnw a’m traddoda I.

24Mab y Dyn yn wir sy’n myned fel yr ysgrifenwyd am Dano; ond gwae’r dyn hwnw trwy’r hwn y mae Mab y Dyn yn cael Ei draddodi; da fuasai iddo pe nas ganesid y dyn hwnw.

25A chan atteb, Iwdas, yr hwn oedd yn Ei draddodi Ef, a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Rabbi?

26Dywedodd Yntau wrtho, Ti a ddywedaist. Ac wrth fwytta o honynt, yr Iesu, wedi cymmeryd bara ac ei fendithio, a dorrodd ef; ac wedi ei roddi i’r disgyblion, dywedodd, Cymmerwch, bwyttewch: hwn yw Fy nghorph.

27A chwedi cymmeryd cwppan a rhoddi diolch, rhoddodd ef iddynt, gan ddywedyd, Yfwch o hwn, bawb;

28canys hwn yw fy ngwaed, sef yr hwn o’r cyfammod, yr hwn er llaweroedd sy’n cael ei dywallt allan er maddeuant pechodau.

29A dywedaf wrthych, Nid yfaf ddim, o hyn allan, o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnw pan yfwyf ef gyda chwi, yn newydd, yn nheyrnas Fy Nhad.

30A chwedi canu hymn, aethant allan i fynydd yr Olewydd.

31Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Yr oll o honoch chwi a dramgwyddir Ynof yn y nos hon; canys ysgrifenwyd,

“Tarawaf y bugail, a gwasgerir defaid y praidd.”

32Ond ar ol adgyfodi o Honof, af o’ch blaen i Galilea.

33A chan atteb, Petr a ddywedodd Wrtho, Os “yr oll a dramgwyddir Ynot,” myfi ni’m tramgwyddir byth.

34Dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir y dywedaf wrthyt, Yn y nos hon, cyn i geiliog ganu, tair gwaith y gwedi Fi.

35Dywedodd Petr Wrtho, Hyd yn oed os ynghyda Thi y bo rhaid i mi farw, Tydi ni wadaf ddim. Yn yr un modd yr holl ddisgyblion hefyd a ddywedasant.

36Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwir Gethshemane, a dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, nes i Mi, wedi myned accw, weddïo.

37Ac wedi cymmeryd Atto Petr a dau fab Zebedëus, dechreuodd dristhau ac ymofidio.

38Yna y dywedodd wrthynt, Trist tros ben yw Fy enaid, hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyda Mi.

39Ac wedi myned ymlaen rhyw ychydig, syrthiodd ar Ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Y Tad mau Fi, os bosibl yw, aed heibio oddi Wrthyf y cwppan hwn! Er hyny, nid fel yr wyf Fi yn ewyllysio, eithr fel yr wyt Ti.

40A dyfod y mae Efe at y disgyblion ac yn eu cael yn cysgu, a dywedodd wrth Petr, Felly; oni ellych, am un awr, wylied gyda Mi?

41Gwyliwch a gweddïwch nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn wir sydd barod, ond y cnawd sydd wan.

42Trachefn, wedi myned oddi wrthynt yr ail waith, gweddïodd, gan ddywedyd, Y Tad mau Fi, os na all hwn fyned heibio oddieithr ei yfed o Honof, gwneler Dy ewyllys.

43Ac wedi dyfod etto, cafodd hwynt yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid wedi trymhau.

44A chan eu gadael hwynt etto, wedi myned oddi wrthynt, gweddïodd y drydedd waith, ac yr un geiriau a ddywedodd etto.

45Yna dyfod y mae at y disgyblion, a dywedodd wrthynt, Cysgwch bellach, a gorphwyswch; Wele, nesaodd yr awr, a Mab y Dyn sy’n cael Ei draddodi i ddwylaw pechaduriaid.

46Codwch, awn; wele, nesaodd yr hwn sydd yn Fy nhraddodi.

47Ac Efe etto yn llefaru, wele, Iwdas, un o’r deuddeg, a ddaeth; ac ynghydag ef, dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl.

48A’r hwn a oedd yn Ei draddodi Ef a roisai iddynt arwydd, gan ddywedyd, Yr hwn a gusanwyf, hwnw yw Efe: deliwch Ef.

49Ac yn uniawn y daeth at yr Iesu, a dywedodd, Henffych well, Rabbi! a chusanodd Ef.

50A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, am yr hyn yr wyt yma. Yna wedi dyfod Atto rhoisant eu dwylaw ar yr Iesu, a daliasant Ef.

51Ac wele, un o’r rhai gyda’r Iesu wedi estyn ei law a dynnodd ei gleddyf; ac wedi tarawo gwas yr archoffeiriad, dorrodd ymaith ei glust ef.

52Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf di i’w le, canys pawb o’r a gymmerant gleddyf, â chleddyf y difethir hwynt.

53A feddyli di na allaf ddeisyf ar Fy Nhad, a rhydd Efe wrthyf yn y fan fwy na deuddeg lleng o angylion?

54Pa fodd, wrth hyny, y cyflawnid yr Ysgrythyrau mai fel hyn y mae rhaid digwydd?

55Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Fel yn erbyn lleidr y daethoch allan â chleddyfau a ffyn i’m dal I. Peunydd yn y deml yr eisteddwn yn dysgu, ac ni’m daliasoch.

56Ond hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid Ysgrythyrau’r Prophwydi. Yna y disgyblion oll, gan Ei adael, a ffoisant.

57A’r rhai a ddaliasant yr Iesu a’i dygasant Ef ymaith at Caiaphas yr archoffeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd.

58A Phetr a’i canlynodd Ef, o hirbell, hyd at lys yr archoffeiriad, ac wedi myned i mewn, eisteddodd gyda’r gweinidogion i weled y diwedd.

59A’r archoffeiriaid a’r Cynghor oll a geisient au-dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent Ef i farwolaeth;

60ac ni chawsant, er dyfod attynt o lawer o au-dystion.

61Ond o’r diwedd, wedi dyfod o ddau attynt, dywedasant, Hwn a ddywedodd, Gallaf ddinystrio teml Dduw, ac mewn tri diwrnod ei hadeiladu hi.

62Ac wedi cyfodi, yr archoffeiriad a ddywedodd Wrtho, Ai nid dim a attebi? Pa beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn Dy erbyn?

63Ond yr Iesu a dawodd; a’r archoffeiriad a ddywedodd Wrtho, Tynghedaf Di, myn y Duw byw, ddywedyd o Honot i ni ai Tydi yw y Crist, Mab Duw.

64Dywedodd yr Iesu wrtho, Ti a ddywedaist. Ond dywedaf wrthych, Ar ol hyn y gwelwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r Gallu, ac yn dyfod ar gymmylau’r nef.

65Yna yr archoffeiriad a rwygodd ei ddillad, gan ddywedyd, Cablodd: paham y mae rhaid i ni mwy wrth dystion? Wele, yn awr clywsoch y gabledd.

66Pa beth yw eich barn chwi? A hwy, gan atteb, a ddywedasant, Dyledwr i farwolaeth yw.

67Yna y poerasant yn Ei wyneb, a chernodiasant Ef;

68ac eraill a’i curasant Ef, gan ddywedyd, Prophwyda i ni, O Grist: Pwy yw’r hwn a’th darawodd?

69A Petr oedd tu allan yn eistedd yn y cwrt; a daeth atto forwynig, gan ddywedyd, A thydi oeddit gydag Iesu y Galilead.

70Ac efe a wadodd ger bron yr holl rai, gan ddywedyd, Nis gwn pa beth a ddywedi.

71Ac ar ol myned allan o hono i’r porth, gwelodd morwynig arall ef, a dywedodd wrth y rhai oedd yno, A hwn hefyd oedd gydag Iesu y Natzaread.

72A thrachefn y gwadodd, trwy lw, Nid adwaen i mo’r dyn.

73Ac wedi ychydig, wedi dyfod atto o’r rhai oedd yn sefyll yno, dywedasant wrth Petr, Yn wir, tithau hefyd wyt o honynt, canys dy leferydd a’th wna yn amlwg.

74Yna y dechreuodd efe regu a thyngu, Nid adwaen i mo’r dyn. Ac yn uniawn ceiliog a ganodd: a chofiodd Petr ymadrodd yr Iesu, yn dywedyd,

“Cyn i geiliog ganu, tair gwaith y gwedi Fi;”

ac wedi myned allan, wylodd yn chwerw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help