1Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Caniatteir i ti ddywedyd drosot dy hun. Yna Paul, wedi estyn ei law, a amddiffynodd ei hun;
2Ynghylch yr holl bethau y cyhuddir fi o honynt gan yr Iwddewon, frenhin Agrippa, tybiaf fy hun yn ddedwydd gan mai ger dy fron di yr wyf ar fedr amddiffyn fy hun heddyw;
3yn enwedig gan dy fod yn gydnabyddus â’r holl ddefodau ymhlith yr Iwddewon, a’r cwestiynnau hefyd; o herwydd paham deisyfiaf arnat fy ngwrando yn amyneddus.
4Fy muchedd, gan hyny, o’m hieuengetyd, yr hon, o’r dechreuad, a fu ymhlith fy nghenedl yn Ierwshalem, a ŵyr yr holl Iwddewon,
5gan fy adnabod o’r cyntaf, os ewyllysiant dystiolaethu, mai yn ol y sect fanylaf o’n crefydd y bu’m fyw yn Pharishead.
6Ac yn awr, am obaith yr addewid a wnaed i’n tadau ni gan Dduw, yr wyf yn sefyll yn cael fy marnu;
7i’r hwn addewid, ein deuddeg llwyth gyda thaerni, nos a dydd, yn gwasanaethu Duw, a obeithiant ddyfod; am yr hwn obaith y cyhuddir fi gan yr Iwddewon, O frenhin.
8Paham mai anghredadwy y bernir yn eich plith y bydd i Dduw gyfodi’r meirw?
9Myfi yn wir a dybiais ynof fy hun, mai yn erbyn enw Iesu y Natsaread yr oedd rhaid gwneuthur llawer o bethau gwrthwynebol.
10Yr hyn hefyd a wnaethum yn Ierwshalem; a llawer hefyd o’r saint myfi a gauais mewn carcharau, wedi derbyn yr awdurdod gan yr archoffeiriaid; a phan laddwyd hwy, yn eu herbyn y rhoddais fy llais.
11Ac yn yr holl sunagogau, llawer gwaith, gan eu cospi y cymhellwn hwynt i gablu; a thros ben allan o’m pwyll yn eu herbyn, erlidiwn hwynt hyd y dinasoedd estronol hefyd.
12Ac yn y pethau hyn wrth fyned i Damascus gydag awdurdod a chaniattad oddiwrth yr archoffeiriaid,
13ar hanner dydd ar y ffordd y gwelais, O frenhin, oleuni o’r nef, tu hwnt i ddisgleirdeb yr haul, yn disgleirio o’m hamgylch, ac o amgylch y rhai yn myned gyda mi.
14A’r oll o honom wedi syrthio i lawr ar y ddaear, clywais lais yn dywedyd wrthyf yn iaith yr Hebreaid, Shawl, Shawl, paham mai myfi a erlidi? Caled i ti yw gwingo yn erbyn y symbylau.
15Ac myfi a ddywedais, Pwy wyt, Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr Hwn yr wyt ti yn Ei erlid.
16Eithr cyfod, a saf ar dy draed: canys er hyn yr ymddangosais i ti, i’th osod yn weinidog ac yn dyst yn gystal o’r pethau yn y rhai y gwelaist Fi,
17ag o’r rhai yr ymddangosaf i ti ynddynt, gan dy wared oddiwrth y bobl, ac oddiwrth y Cenhedloedd, at y rhai yr wyf Fi yn dy ddanfon i agoryd eu llygaid,
18er mwyn troi o honynt o dywyllwch i oleuni, ac o awdurdod Satan at Dduw, er mwyn derbyn o honynt faddeuant pechodau ac etifeddiaeth ym mysg y rhai a sancteiddiwyd trwy ffydd Ynof.
19O achos hyn, O frenhin, ni fu’m anufudd i’r weledigaeth nefol,
20eithr i’r rhai yn Damascus yn gyntaf, ac Ierwshalem hefyd, a thrwy holl wlad Iwdea, ac i’r cenhedloedd y mynegais ar edifarhau a throi at Dduw, gan wneuthur gweithredoedd teilwng o edifeirwch.
21O achos y pethau hyn yr Iwddewon, wedi fy nal yn y deml, a geisiasant fy lladd i.
22Wedi cael, gan hyny y cymmorth y sydd oddiwrth Dduw, hyd y dydd hwn yr wyf yn sefyll gan dystiolaethu i fychain a mawr hefyd, heb ddywedyd dim amgen na’r pethau y bu i’r Prophwydi lefaru am danynt megis ar fedr digwydd, a Mosheh hefyd,
23mai i ddioddef yr oedd Crist, mai Efe yn gyntaf, trwy adgyfodiad y meirw, oedd ar fedr mynegi goleuni i’r bobl, ac i’r cenhedloedd hefyd.
24A phan â’r pethau hyn yr amddiffynodd ei hun, Ffestus â llef uchel a ddywedodd, Allan o’th bwyll yr wyt, Paul; mawredd dy ddysg, i ammhwylldra y’th dry.
25Ond Paul, Nid allan o’m pwyll yr wyf, ebr efe, ardderchoccaf Ffestus, eithr ymadroddion gwirionedd a sobrwydd yr wyf yn eu hadrodd;
26canys gŵyr y brenhin am y pethau hyn, wrth yr hwn hefyd gydag hyder yr wyf yn llefaru; canys fod rhyw beth o’r pethau hyn yn guddiedig rhagddo, nid wyf yn credu modd yn y byd, canys nid mewn congl y gwnaed hyn.
27Ai credu’r Prophwydi yr wyt, frenhin Agrippa?
28Gwn dy fod yn credu. Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Rhyw ychydig y perswadi fi, i wneuthur Cristion o honof.
29A Paul a ddywedodd, Dymunwn gan Dduw, am nid “rhyw ychydig” ond yn fawr y byddai nid tydi yn unig, eithr pawb hefyd y sy’n fy nghlywed heddyw, yn gyfryw ag yr wyf fi, namyn y rhwymau hyn.
30A chyfododd y brenhin, a’r rhaglaw, a Bernice, a’r rhai oedd yn cyd-eistedd â hwynt;
31ac wedi cilio o honynt, llefarasant wrth eu gilydd, gan ddywedyd, Nid oes dim yn haeddu angau neu rwymau a wnaeth y dyn hwn.
32Ac Agrippa a ddywedodd wrth Ffestus, Ei ollwng ymaith yn rhydd a allasai’r dyn hwn, pe na fuasai iddo appelio at Cesar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.