1Mab doeth a lawenhâ ei dad,
Ond mab ynfyd (sydd) dristwch i’w fam.
2Ni leshâ trysorau anghyfiawnder,
Ond cyfiawnder a weryd rhag angau.
3Ni newyna Iehofah enaid y cyfiawn,
Ond chwennychiad y drygionus rai a wthia Efe yn ol.
4Tlawd a weithio â llaw laesawl,
Ond llaw y llafurus a gyfoethoga.
5 A gasglo yn yr haf (sydd) fab synhwyrol,
A gysgo yn y cynhauaf (sydd) fab a bair gywilydd.
6Bendithion (sydd) ar ben y cyfiawn,
Ond genau ’r drygionus rai a gelant drais.
7Coffadwriaeth y cyfiawn (fydd) i ’w fendithio,
Ond enw ’r drygionus rai a bydra.
8Y doeth o galon a dderbyn orchymynion,
Ond y ffol ei wefusau a syrth bendramwnwgl.
9A rodio mewn diniweidrwydd a rodia ’n hyderus,
Ond a gam-dröo ei ffyrdd a wybyddir.
10A amneidio â llygad a bair boen,
A’r ffol ei wefusau a syrth bendramwnwgl.
11Ffynnon bywyd (yw) genau ’r cyfiawn,
Ond genau ’r drygionus sy’n celu trais.
12Casineb a gyffry gynhennau,
Ond ar bob camwedd y dyd cariad orchudd.
13Yngwefusau ’r deallus y ceir doethineb,
Ond gwialen (sydd) i gefn y diffygiol o feddwl.
14Y doethion a guddiant wybodaeth,
Ond genau ’r ffol (sydd) adfail cyfagos.
15Cyfoeth y goludog (yw) ei ddinas gadarn ef,
Ond adfail yr anghenogion (yw) eu tlodi.
16Gwobr y cyfiawn (sydd) i fywyd,
Ond cynnyrch y drygionus (sydd) i bechod.
17Y llwybr i fywyd (yw) ’r hwn a geidw at athrawiaeth,
Ond a ymado âg argyhoeddiad (sy) ’n peri cyfeiliorni.
18Celu casineb (y mae) gwefusau gau,
Ond a adroddo enllib, hwnnw (sydd) ynfyd.
19Trwy amlder geiriau ni pheidia camwedd,
Ond a attalio ei wefusau (sydd) synhwyrol.
20Arian detholedig (yw) tafod y cyfiawn,
Ond calon y drygionus rai sydd o ddiddim (werth):
21Gwefusau ’r cyfiawn a fugeiliant laweroedd,
Ond yr ynfydion, trwy’r diffygiol o feddwl y byddant meirw.
22Bendith Iehofah, hyhi a gyfoethoga,
Ac ni chwanega Efe flinder gyda hi.
23Megis digrifwch (yw) i ’r ynfyd ddwyn i ben fwriad drwg,
Ond doethineb (sydd) gan y dyn deallus.
24Arswyd y drygionus, hwnnw a ddaw arno ef,
Ond chwennychiad y cyfiawn rai a rydd (Duw).
25Fel yr â corwŷnt heibio, felly nid (erys) y drygionus,
Ond y cyfiawn (sydd) sylfaen dragywyddol.
26Fel finegr i ’r dannedd, ac fel mŵg i ’r llygaid,
Felly y swrth i ’w ddanfonwr.
27Ofn Iehofah a chwanega ddyddiau,
Ond blynyddoedd y drygionus rai a gwttogir.
28Gobaith y cyfiawn rai (fydd) lawenydd,
Ond disgwyliad y drygionus rai a ddistrywir.
29Amddiffynfa i ’r diniweid (yw) ffordd Iehofah,
Ond dinystr (yw) i wneuthurwyr anwiredd.
30Y cyfiawn, yn dragywydd nid ysgog,
Ond y drygionus rai ni phreswyliant y ddaear,
31Genau ’r cyfiawn a flagurant â doethineb,
Ond tafod gŵyr-dröad a dorrir ymaith;
32Gwefusau ’r cyfiawn fyddant gydnabyddus â ’r hyn sy gymmeradwy,
Ond genau ’r drygionus rai â gŵyr-dröad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.