I. Corinthiaid 15 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac hyspysu yr wyf i chwi, frodyr, yr Efengyl a efengylais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch; yn yr hon hefyd yr ydych yn sefyll;

2a thrwy yr hon hefyd yr ydych yn cael eich achub; hyspysu yr wyf i chwi â pha ymadrodd yr efengylais i chwi, os ei ddal yn dỳn yr ydych, oddieithr mai yn ofer y credasoch.

3Canys traddodais i chwi, yn gyntaf, yr hyn a dderbyniais hefyd, y bu i Crist farw am ein pechodau yn ol yr Ysgrythyrau;

4ac y claddwyd Ef, ac y cyfodwyd y trydydd dydd yn ol yr Ysgrythyrau;

5ac yr ymddangosodd i Cephas;

6yna i’r deuddeg; wedi hyny, yr ymddangosodd i fwy na phum cant o frodyr ar unwaith, o’r rhai y mae’r rhan fwyaf yn aros hyd yr awr hon, ond rhai a hunasant.

7Wedi hyny yr ymddangosodd i Iago;

8yna i’r apostolion oll; ac yn ddiweddaf o’r cwbl, fel i un annhymmig, yr ymddangosodd i minnau hefyd:

9canys myfi wyf y lleiaf o’r apostolion, yr hwn nid wyf deilwng i’m galw yn apostol, o herwydd erlid o honof eglwys Dduw;

10ond trwy ras Duw ydwyf yr hyn ydwyf; a’i ras Ef, yr hwn a fu tuag attaf, nid ofer fu, eithr yn helaethach na hwynt oll y llafuriais; ond nid myfi chwaith eithr gras Duw yr hwn oedd gyda mi.

11Pa un bynnag, gan hyny, ai myfi, ai hwynt-hwy, felly y pregethwn, ac felly y credasoch.

12Ac os Crist a bregethir, mai o feirw y cyfodwyd Ef, pa fodd y dywaid rhai yn eich plith chwi, “Adgyfodiad y meirwon nid oes mo’no”?

13Ac os “Adgyfodiad y meirwon nid oes mo’no,” Crist ni chyfodwyd chwaith;

14ac os “Crist ni chyfodwyd,” gwag, gan hyny, yw ein pregethiad ni, a gwag eich ffydd chwi;

15a cheir ni hefyd yn au-dystion Duw, canys tystiasom yn erbyn Duw y cyfododd Efe Grist, yr Hwn ni chyfododd Efe, os yn wir meirwon ni chyfodir;

16canys os “meirwon ni chyfodir,” ni fu i Grist chwaith Ei gyfodi;

17ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd, yr ydych etto yn eich pechodau.

18Gan hyny, hefyd am y rhai a hunasant yng Nghrist y darfu.

19Os yn y bywyd hwn yng Nghrist y bum a’n hunig obaith, truanach na phawb o ddynion ydym.

20Ond yn awr, Crist a gyfodwyd o feirw, blaen-ffrwyth y rhai a hunasant;

21canys gan mai trwy ddyn y mae marwolaeth, trwy ddyn hefyd y mae adgyfodiad meirwon;

22canys fel yn Adam y mae pawb yn meirw, felly hefyd yng Nghrist pawb a fywheir: ond pob un yn ei drefn ei hun;

23y blaen ffrwyth yw Crist; wedi hyny y rhai ydynt eiddo Crist, yn Ei ddyfodiad Ef;

24yna y diwedd, pan draddoda Efe y deyrnas i Dduw a’r Tad, pan fydd wedi diddymmu pob llywodraeth a phob awdurdod a gallu;

25canys rhaid Iddo Ef deyrnasu hyd oni osodo Ei holl elynion dan Ei draed.

26Y gelyn olaf a ddiddymir, sef yr angau, canys pob peth a ddarostyngodd Efe dan Ei draed Ef.

27A phan ddywedo fod pob peth wedi ei ddarostwng, amlwg yw mai oddieithr yr Hwn a ddarostyngodd bob peth Iddo,

28yna y Mab Ei hun hefyd a ddarostyngir i’r Hwn a ddarostyngodd bob peth Iddo Ef, fel y byddo Duw oll yn oll.

29Canys pa beth a wna y rhai yn cael eu bedyddio dros y meirw, os y meirwon yn hollol ni chyfodir? Paham y maent yn cael eu bedyddio hefyd trostynt?

30Paham yr ydym ninnau hefyd mewn perygl bob awr?

31Peunydd yr wyf yn marw, myn eich ymffrost, frodyr, yr hwn sydd genyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

32Os yn ol dyn yr ymleddais â bwystfilod yn Ephesus, pa lesad yw i mi? Os “meirwon ni chyfodir,” bwyttawn ac yfwn, canys y foru marw yr ydym.

33Nac arweinier chwi ar gyfeiliorn: moesau da a lygrir gan ymddiddanion drwg.

34Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch; canys anwybodaeth am Dduw sydd gan rai: er codi cywilydd ynoch yr wyf yn llefaru.

35Eithr dywaid rhyw un, Pa fodd y cyfodir y meirw? ac a pha ryw gorph y deuant?

36O ynfyd, yr hyn yr wyt ti yn ei hau, ni fywheir oni bydd farw.

37A’r hyn a heui, nid y corph a fydd yr wyt yn ei hau, eithr gronyn noeth, ysgatfydd o wenith,

38neu o ryw un o’r hadau eraill, ond Duw sy’n rhoddi iddo gorph fel yr ewyllysiodd, ac i bob un o’r hadau ei gorph ei hun.

39Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd, eithr un cnawd sydd gan ddynion, a chnawd arall gan anifeiliaid, a chnawd arall gan ehediaid, ac arall gan bysgod;

40a chyrph nefol sydd, a chyrph daearol; eithr un yw gogoniant y rhai nefol,

41ac arall yw gogoniant y rhai daearol: un gogoniant sydd i’r haul, ac arall yw gogoniant y lloer, ac arall gogoniant y ser, canys rhwng seren a seren y mae gwahaniaeth mewn gogoniant;

42felly hefyd y mae adgyfodiad y meirw: heuir ef mewn llygredigaeth, cyfodir mewn anllygredigaeth;

43heuir mewn ammharch, cyfodir mewn gogoniant; heuir mewn gwendid, cyfodir mewn gallu; heuir yn gorph anianol, cyfodir yn gorph ysprydol; os oes corph anianol, y mae hefyd un ysprydol.

44Felly hefyd yr ysgrifenwyd, “Aeth y dyn cyntaf, Adam,

45yn enaid byw,” a’r Adam diweddaf yn yspryd yn bywhau;

46eithr nid cyntaf yr ysprydol, eithr yr anianol, a chwedi’n yr ysprydol.

47Y dyn cyntaf o’r ddaear yn ddaearol; yr ail ddyn, o’r nef.

48Ac y cyfryw ag yw y daearol, y cyfryw hefyd yw y rhai daearol;

49ac y cyfryw ag yw y nefol, y cyfryw hefyd yw y rhai nefol; ac fel y dygasom ddelw y daearol, dygwn hefydd ddelw y nefol.

50A hyn meddaf, frodyr, Cig a gwaed ni allant etifeddu teyrnas Dduw, a llygredigaeth nid yw’n etifeddu anllygredigaeth.

51Wele, dirgelwch a ddywedaf wrthych, Nid pawb o honom a hunant, ond pawb o honom a newidir, mewn moment, ar darawiad llygad, wrth yr udgorn diweddaf;

52canys udgorn a gân, a’r meirw a gyfodir yn anllygredig, a nyni a newidir;

53canys rhaid i’r llygradwy hwn ymwisgo ag anllygredigaeth, a’r marwol hwn ymwisgo ag anfarwoldeb;

54a phan ddarffo i’r llygradwy hwn ymwisgo ag anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn ymwisgo ag anfarwoldeb, yna y digwydd yr ymadrodd sydd ysgrifenedig,

“Llyngcwyd angau am byth.”

55Pa le, angau, y mae dy fuddugoliaeth di? Pa le, angau, y mae dy golyn di?

56Colyn yr angau yw pechod; a gallu pechod yw’r Gyfraith.

57Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr Hwn sy’n rhoi i ni y fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

58Felly, fy mrodyr anwyl, byddwch sefydlog, yn ddiymmod, yn helaethion yngwaith yr Arglwydd yn wastadol, gan wybod nad yw eich llafur yn wag yn yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help