1Er hynny yn awr fel hyn y dywed Iehofah,
Dy Greawdwr di, Iacob, a’th Luniwr di, Israel;
Nac ofna canys Mi a’th adbrynais,
Gelwais di erbyn dy enw, eiddo Fi (wyt) ti.
2Pan elych trwy ddyfroedd gyda thi Myfi (a fyddaf),
A (phan) drwy afonydd ni lifant drosot;
Pan rodiech trwy ’r tân ni ’th losgir,
A’r fflam ni ’th ysa.
3Canys Myfi, Iehofah dy Dduw di,
Sanct Israel, dy Iachawdwr,
A roddais yn iawn drosot yr Aipht,
Cwsh a Seba am danat.
4O herwydd i’t fod yn werthfawr yn Fy ngolwg,
Gogoneddwyd di, a Mi a’th hoffais;
Am hynny y rhoddaf ddynion am danat ti,
A phobloedd am dy einioes di.
5Nac ofna, canys gyda thi Myfi (a fyddaf),
O’r dwyrain y dygaf dy hâd,
Ac o’r gorllewin y’th gasglaf;
6Dywedaf wrth y gogledd, “Dod,”
Ac wrth y dehau “Nac attal;
Dwg Fy meibion o bell,
A’m merched o eithaf y ddaear;
7(Sef) pob un a elwir ar Fy enw,
Ac i’m gogoniant a greais,
A luniais, Ië, ac a wnaethum.”
8 Dygwch allan y bobl ddall er (bod)llygaid ganddynt,
A’r byddariaid er (bod) clustiau ganddynt;
9Bydded yr holl genhedloedd wedi eu casglu ynghŷd,
A chynnuller y bobloedd.
Pwy yn eu mysg a fynega hyn
Ac a 『2draetha i』 ni 『1y pethau cyntaf』 (a ddigwydd)?
Dygont eu tystion fel y cyfiawnhâer hwynt,
Neu gwrandawed hwy, a dywedont “Gwir (yw,)”
10Chwychwi yw Fy nhystion I, medd Iehofah,
A’m gwas yr hwn a ddewisais,
Fel y gwypoch, ac y credoch Fi,
Ac y dealloch mai Myfi (yw) Efe:
O’m blaen I ni ffurfiwyd Duw,
Ac ar Fy ol I ni bydd.
11Myfi, Myfi (yw) Iehofah,
Ac nid (oes) heblaw Fi Iachawdwr,
12Myfi a fynegais, ac a fûm Iachawdwr,
Ac a draethais, ac nid 『2un dieithr』 『1yn eich mysg;』
A chwychwi (yw) Fy nhystion, medd Iehofah, a Myfi (yw) Duw,
13Ië, cyn (bod) dydd Myfi (yw) Efe,
Ac nid (oes) o’m llaw a weryd;
Gwnaf, a phwy a ’i dychwel?
14Fel hyn y dywed Iehofah,
Eich Prynwr, Sanct Israel,
Er eich mwyn chwi ’r anfonais i Babilon,
Ac y tynnaf i lawr (ei) barrau oll,
A’r Caldeaid, (y rhai) yn eu llongau (y mae) eu gorfoledd;
15Myfi Iehofah, eich Sanct chwi,
Creawdydd Israel, eich Brenhin.
16Fel hyn y dywed Iehofah,
Yr Hwn a roddodd 2ffordd 『1yn y môr.』
Ac yn y dyfroedd cryfion Iwybr:
17Yr Hwn a ddug allan y cerbyd a’r march, y llu a’r cadarn,
Ynghŷd y gorweddasant, ni chodant,
Darfuont, fel llin y diffoddasant.
18Na chofiwch y pethau o’r blaen;
A’r pethau gynt, nac ystyriwch hwynt;
19Wele Fi yn gwneuthur peth newydd,
Yr awr hon y tyr allan; onid adnabyddwch ef?
Ië gwnaf yn yr anialwch ffordd,
Yn y diffaethwch afonydd.
20Gogoniant i Mi a rydd bwystfil y maes,
Y dreigiau, a chywion yr estrys,
Am roddi o honof yn yr anialwch ddwfr,
Afonydd yn y diffaethwch,
I roddi dïod i’m pobl, Fy newisedig.
21Y bobl hyn a luniais im’ Fy hun;
Fy moliant a fynegant.
22Eithr 2arnaf Fi 1ni elwaist, Iacob,
Ac (ni) flinaist dy hun o’m hachos I, Israel.
23Ni ddygaist i Mi oen dy boeth-offrwm,
Ac â ’th ebyrth ni ’m hanrydeddaist;
Ni wasgais arnat mewn offrymmau,
Ac ni ’th flinais âg arogl-darth:
24Ni phrynaist i Mi âg arian gorsen beraroglaidd,
Ac â brasder dy ebyrth ni ’m llwyr-fwydaist;
Ond yn ddiau gwasgaist ti arnaf Fi â ’th bechodau,
Blinaist Fi â ’th anwireddau.
25Myfi Myfi (yw) Efe,
Yn dileu dy gamweddau er Fy mwyn Fy hun,
A ’th bechodau ni chofiaf.
26Dwg ar gof im’, cydymddadleuwn;
Adrodd di, fel y ’th gyfiawnhâer.
27Dy dadau o ’th flaen a bechodd,
A’th athrawon a wrthryfelasant im’ herbyn,
28Ac halogodd dy dywysogion y cyssegr;
Gan hynny y rhoddaf 2Iacob yn 1ddïofrydbeth,
Ac Israel yn waradwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.