1I’r blaengeiniad. Psalm o eiddo Dafydd.
(Y bobl)2Gwrandawed Iehofah arnat yn nydd cyfyngder,
Uchelfa it’ fyddo enw Duw Iacob!
3Danfoned Efe dy gymmorth o’r cyssegr,
Ac o Tsïon cynhalied di!
4Cofied Efe dy holl roddion,
A barned dy boeth offrymmau yn freision! Selah.
5Rhodded Efe i ti wrth fodd dy galon,
A’th holl fwriad cyflawned Efe!
6Llawen-ganu a wnawn ni yn dy waredigaeth,
Yn enw ein Duw y dyrchafwn (ein) llumman;
Cyflawned Iehofah dy holl ddeisyfiadau!
(Off:)7Yn awr y gwn y gweryd Iehofah Ei enneiniog,
Y gwrendy Efe arno o nefoedd Ei sancteiddrwydd,
Ynghadernid gwaredigaeth Ei ddeheulaw!
8(Gorfoledda) rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch,
Ond nyni,—yn enw Iehofah ein Duw y gorfoleddwn.
9Hwynt-hwy a ymgrymmant ac a syrthiant,
Ond nyni a ymgodwn ac a safwn.
(Y bobl)10O Iehofah, gwared Di ’r Brenhin!
Gwrandawed Efe ni yn y dydd y galwom Arno!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.