1Canys y Melchitsedec hwn, brenhin Shalem, offeiriad Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham yn dychwelyd o ladd y brenhinoedd,
2ac a’i bendigodd ef; i’r hwn hefyd degfed ran o’r cwbl a gyfrannodd Abraham, (yn gyntaf, o’i gyfieithu, Brenhin cyfiawnder; a chwedi’n hefyd, Brenhin Shalem,
3yr hyn yw Brenhin heddwch; heb dad, heb fam, heb achau, heb fod iddo na dechreu dyddiau, na diwedd einioes, ond wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw,) aros yn offeiriad y mae yn barhaus.
4Ystyriwch mor fawr oedd hwn, i’r hwn y bu i Abraham roddi degwm o’r brif-anrhaith, y patriarch.
5A’r rhai o feibion Lefi y sy’n derbyn swydd yr offeiriadaeth, gorchymyn sydd ganddynt i gymmeryd degwm gan y bobl yn ol y Gyfraith, hyny yw, gan eu brodyr, er wedi dyfod o honynt o lwynau Abraham;
6ond yr hwn nad oedd ei achau o honynt hwy, a gymmerodd ddegwm gan Abraham; ac yr hwn oedd a’r addewidion ganddo, a fendithiodd efe.
7Ac heb neb rhyw ddadl, yr hyn sydd lai, gan y gwell y bendithir.
8Ac yma yn wir, dynion y sy’n marw a dderbyniant ddegymmau; ond yno, yr hwn y tystiolaethir iddo mai byw y mae.
9Ac, fel y dywedwyf felly, trwy Abraham hyd yn oed Lefi, yr hwn sy’n derbyn degymmau,
10a dalodd ddegwm, canys etto yn lwynau ei dad yr ydoedd pan gyfarfu Melchitsedec ag ef.
11Pe buasai, gan hyny, berffeithrwydd trwy’r offeiriadaeth Lefiticaidd, (canys dani hi y bu i’r bobl dderbyn y Gyfraith,) pa raid oedd mwyach am, yn ol dull Melchitsedec, i arall gyfodi yn offeiriad, ac nad yn ol dull Aaron y’i gelwid?
12Canys wrth newid yr offeiriadaeth, o angenrhaid newid y gyfraith hefyd a wneir.
13Canys am yr hwn y dywedir y pethau hyn, i lwyth arall y perthynai,
14o’r hwn nid oedd neb a wasanaethodd yr allor; canys eglur yw mai o Iwdah y cododd ein Harglwydd, am yr hwn lwyth, o ran offeiriaid, ni fu i Mosheh lefaru dim.
15Ac helaethach etto y mae’n eglur, os yn ol cyffelybiaeth Melchitsedec y mae offeiriad arall yn codi,
16yr Hwn, nid yn ol cyfraith gorchymyn cnawdol y’i gwnaed, eithr yn ol gallu bywyd annattodadwy:
17canys tystiolaethir,
“Tydi wyt offeiriad yn dragywydd yn ol dull Melchitsedec.”
18Canys diddymmiad sy’n digwydd i’r gorchymyn sy’n myned o’r blaen o herwydd ei wendid a’i afles (canys nid oedd dim a berffeithiwyd gan y Gyfraith,)
19a dwyn i mewn obaith gwell, trwy’r hwn yr ydym yn nesau at Dduw.
20A chan belled ag nad heb lw y mae (canys hwynt-hwy,
21heb lw y maent wedi eu gwneuthur yn offeiriaid; ond Hwn gyda llw, gan yr Hwn sy’n dywedyd am Dano,
“Tyngodd Iehofah, — ac nid edifarha,
Tydi wyt offeiriad yn dragywydd:”)
22mor bell hefyd, o gyfammod gwell y gwnaed Iesu yn Fachnïydd.
23A hwynt-hwy, llawer sydd wedi eu gwneuthur yn offeiriaid o herwydd mai gan farwolaeth y’u rhwystrid rhag parhau;
24ond Efe, gan Ei fod yn parhau yn dragywydd, sydd a Chanddo Ei offeiriadaeth heb fyned heibio.
25Oddiwrth hyny, achub yn hollol y medr Efe y rhai sy’n dyfod trwyddo Ef at Dduw, gan Ei fod bob amser yn byw i eiriol drostynt.
26Canys y cyfryw a weddai i nyni yn Arch-offeiriad, yn sanctaidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddiwrth bechaduriaid, ac wedi Ei wneuthur yn uwch na’r nefoedd;
27yr Hwn sydd heb Ganddo bob dydd anghenrhaid, fel yr arch-offeiriaid, i offrymmu aberthau, yn gyntaf am Ei bechodau Ei hun, a chwedi’n am yr eiddo’r bobl, canys hyn a wnaeth Efe unwaith am byth pan Ef Ei hun yr offrymmodd.
28Canys y Gyfraith sy’n gosod dynion yn arch-offeiriaid, a chanddynt wendid; ond gair y llw sydd wedi’r Gyfraith, a osododd y Mab, yr Hwn a berffeithiwyd yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.