1Ac wedi galw Atto Ei ddeuddeg disgybl, rhoddes iddynt awdurdod dros ysprydion aflan, i’w bwrw hwynt allan, ac i iachau pob clefyd a phob afiechyd.
2Ac enwau y deuddeg apostol yw y rhai hyn: Cyntaf, Shimon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd;
3Philip, a Bartholemëus; Thomas, a Matthew y treth-gymmerwr; Iago mab Alphëus, a Thadëus;
4Shimon y Cananead, ac Iwdas Iscariot, yr hwn hefyd a draddododd Ef.
5Y deuddeg hyn a ddanfonodd yr Iesu, wedi gorchymyn iddynt, gan ddywedyd, I ffordd y cenhedloedd nac ewch; ac i ddinas o eiddo’r Shamariaid nac ewch i mewn:
6ond ewch yn hytrach at ddefaid colledig tŷ Israel.
7Ac wrth fyned pregethwch, gan ddywedyd, Nesaodd teyrnas nefoedd.
8Cleifion iachewch; meirw cyfodwch; gwahanglwyfusion glanhewch; cythreuliaid bwriwch allan: yn rhad y derbyniasoch, rhad-roddwch.
9Na cheisiwch aur, nac arian, na phrês i’ch gwregysau,
10nac ysgrepan i’r daith, na dwy bais, nac esgidiau, na ffon, canys haeddu ei fwyd y mae’r gweithiwr.
11Ac i ba ddinas bynnag, neu bentref, yr eloch i mewn, chwiliwch allan pwy ynddi sydd deilwng; ac yno arhoswch, hyd onid eloch allan.
12Ac wrth fyned i mewn i’r tŷ, cyferchwch well iddo:
13ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno; ond os na fydd deilwng, bydded i’ch tangnefedd ddychwelyd attoch.
14A phwy bynnag na’ch derbynio, ac na wrandawo eich geiriau, wrth fyned allan o’r tŷ neu y ddinas honno, ysgydwch ymaith lwch eich traed.
15Yn wir meddaf i chwi, Mwy goddefadwy fydd i dir Sodom a Gomorrah yn nydd y farn nag i’r ddinas honno.
16Wele, Myfi wyf yn eich danfon fel defaid ynghanol bleiddiaid; byddwch, gan hyny, yn gall fel y seirph, ac yn ddiniweid fel y colommenod.
17Ond gwyliwch rhag dynion, canys rhoddant chwi i fynu i gynghorau, ac yn eu sunagogau y’ch ffrewyllant;
18a cher bron llywiawdwyr a brenhinoedd y’ch dygant o’m hachos I, er tystiolaeth iddynt ac i’r cenhedloedd.
19Ond pan draddodant chwi, na phryderwch am ba fodd neu ba beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno ba beth a lefaroch:
20canys nid chwychwi sy’n llefaru, eithr Yspryd eich Tad yr Hwn sydd yn llefaru ynoch.
21A thraddoda brawd frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn; a chyfyd plant yn erbyn rhieni, ac a barant eu marwolaeth.
22A byddwch gas gan bawb o achos Fy enw; ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd gadwedig.
23A phan erlidiant chwi yn y ddinas hon, ffowch i’r llall; canys yn wir y dywedaf wrthych, na orphenwch ddinasoedd Israel nes dyfod Mab y Dyn.
24Nid yw disgybl yn uwch na’r athraw, na’r caethwas yn uwch na’i arglwydd;
25digon i’r disgybl fod fel ei athraw, ac y caethwas fel ei arglwydd. Os perchen y tŷ a alwasant “Beelzebub,” pa faint mwy ei dylwyth?
26Am hyny, nac ofnwch hwynt; canys nid oes dim wedi ei orchuddio, yr hwn ni ddatguddir; na chuddiedig, yr hwn ni wybyddir.
27Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd wrthych yn y tywyllwch, mynegwch yn y goleuni; a’r hyn a glywch yn y glust, cyhoeddwch ar bennau’r tai.
28Ac nac ofnwch rhag y rhai sy’n lladd y corph, ond yr enaid na allant ei ladd; ond ofnwch yn hytrach yr Hwn sy’n abl i ddistrywio enaid a chorph yn Gehenna.
29Onid yw dau aderyn y tô i’w gwerthu er assar? ac un o honynt ni syrth ar y ddaear heb eich Tad:
30ond hyd yn oed gwallt eich pen chwi ydynt i gyd wedi eu cyfrif.
31Gan hyny, nac ofnwch; ar lawer adar y tô yr ydych chwi yn rhagori.
32Pob un, gan hyny, a’m haddefo I ger bron dynion,
Addefaf Finnau hefyd ef ger bron Fy Nhad y sydd yn y nefoedd:
33A phwy bynnag a’m gwado I ger bron dynion,
Gwadaf Finnau hefyd ef ger bron Fy Nhad y sydd yn y nefoedd.
34Na thybiwch y daethum i ddanfon heddwch ar y ddaear:
35ni ddaethum i ddanfon heddwch, eithr cleddyf: canys daethum i wahanu dyn yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam, a gwaudd yn erbyn ei chwegr;
36a gelynion dyn a fydd tylwyth ei dŷ.
37Yr hwn sy’n caru tad neu fam yn fwy na Myfi, nid yw deilwng o Honof Fi; a’r hwn sy’n caru mab neu ferch yn fwy na Myfi, nid yw deilwng o Honof Fi:
38a’r hwn nad yw yn cymmeryd ei groes ac yn canlyn ar fy ol I, nid yw deilwng o Honof Fi.
39Yr hwn sy’n cael ei einioes, a’i cyll; a’r hwn a gollo ei einioes o’m hachos I, a’i caiff.
40Yr hwn sydd yn eich derbyn chwi, Myfi y mae efe yn ei dderbyn; a’r hwn sydd yn Fy nerbyn I, derbyn yr Hwn a’m danfonodd y mae.
41Yr hwn sy’n derbyn prophwyd yn enw prophwyd, gwobr prophwyd a gaiff efe; a’r hwn sy’n derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, gwobr un cyfiawn a gaiff efe.
42A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn phiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll mo’i wobr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.