1Canys am y weinidogaeth i’r saint, afraid yw i mi ’sgrifenu attoch;
2canys gwn eich parodrwydd, yr hwn yr wyf yn ymffrostio ynddo drosoch chwi i’r Macedoniaid, fod Achaia wedi ei pharottoi er’s y llynedd; ac eich sel chwi a annogodd lawer iawn o honynt.
3Ond danfonais y brodyr fel na bo ein hymffrost, yr hwn sydd drosoch, yn wag yn y rhan hon; fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbarottoi;
4rhag mewn modd yn y byd, os daw Macedoniaid gyda mi, ac eich cael yn ammharod, ein cywilyddier ni (fel na ddywedwn, chwi) yn yr hyder hwn.
5Gan hyny, tybiais yn angenrheidiol attolygu i’r brodyr fyned o’r blaen attoch a rhag-ddarparu eich haelioni a rag-addawyd, fel y bo barod felly megis haelioni, ac nid megis crib-ddail.
6A hyn,
A hauo yn brin, yn brin hefyd y med;
Ac a hauo yn haelionus, yn haelionus hefyd y med;
7 gwnaed pob un, fel y rhag-ddewisodd yn ei galon, nid gyda thristwch nac o angenrheidrwydd, canys rhoddwr hyfryd a gar Duw.
8Ac abl yw Duw i beri i bob gras fod yn dra-helaeth tuag attoch, fel ymhob peth a phob amser gyda digonoldeb genych, y byddoch yn dra-helaeth i bob gwaith da;
9fel yr ysgrifenwyd,
“Gwasgarodd; rhoddodd i’r tlodion;
Ei gyfiawnder sy’n aros yn dragywydd.”
10A’r Hwn sy’n arlwyo had i’r hauwr, a bara yn ymborth, a arlwya ac a amlha eich had, ac a bair gynnydd ar ffrwythau eich cyfiawnder;
11ymhob peth yn cael eich cyfoethogi i bob haelioni, yr hwn sy’n gweithio trwom ddiolch i Dduw:
12canys meistriaid y weinidogaeth hon sydd nid yn unig yn cyflawni diffygion y saint, eithr yn ymhelaethu hefyd trwy aml-roddi diolch i Dduw;
13gan mai trwy brawf y ministriad hwn y maent yn gogoneddu Duw am ufudd-dod eich cyffes i Efengyl Crist, ac am haelioni eich cymhorth iddynt hwy ac i bawb;
14a hwy, â gweddi trosoch, yn hiraethu am danoch o herwydd dirfawr ras Duw y sydd ynoch.
15Diolch i Dduw am Ei rodd annhraethadwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.