1Canys chwi eich hunain a wyddoch, frodyr, ein dyfodiad i mewn attoch, nad ofer fu;
2eithr wedi dioddef o’r blaen, a’n sarhau, fel y gwyddoch, yn Philippi, buom hy yn ein Duw i lefaru wrthych Efengyl Dduw mewn mawr ymdrech.
3Canys ein cyngor, nid o gam-arwain yr ydoedd, nac o aflendid, nac mewn twyll;
4eithr fel y’n cymmeradwywyd gan Dduw i ymddiried i ni am yr Efengyl, felly yr ydym yn llefaru, nid fel yn rhyngu bodd i ddynion, eithr i Dduw, yr Hwn sydd yn profi ein calonnau.
5Canys ni fuom un amser mewn ymadrodd gwenhieithus, fel y gwyddoch; nac mewn rhith cybydd-dod, Duw sydd dyst;
6nac yn ceisio gogoniant gan ddynion, na chenych chwi na chan eraill; a ni yn gallu bod yn bwys arnoch, megis apostolion Crist;
7eithr buom addfwyn yn eich mysg fel pan fydd mammaeth yn maethu ei phlant ei hun;
8felly gan eich hoffi, boddlawn oeddym i gyfrannu i chwi nid yn unig Efengyl Dduw, eithr hefyd ein heneidiau ein hunain, am mai anwyl oeddych genym.
9Canys cof yw genych, frodyr, ein llafur a’n lludded: gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch, pregethasom i chwi Efengyl Dduw.
10Chwychwi ydych dystion, a Duw hefyd, mor sanctaidd a chyfiawn a difeius yr ymddygasom tuag attoch chwi y sy’n credu;
11fel y gwyddoch y modd yr ymddygasom tua phob un o honoch, fel tad tuag at ei blant ei hun,
12gan eich cynghori, a’ch diddanu, a thystiolaethu, fel y rhodiech yn deilwng i Dduw, yr Hwn sydd yn eich galw i’w deyrnas Ei hun a gogoniant.
13Ac o achos hyn yr ydym ni hefyd yn diolch i Dduw yn ddibaid, o herwydd wedi derbyn o honoch y gair a glywsoch genym, sef Gair Duw, derbyniasoch ef nid megis gair dynion, eithr (fel y mae yn wir) megis Gair Duw, yr hwn sydd hefyd yn gweithio ynoch chwi y sy’n credu;
14canys chwychwi a aethoch yn efelychwyr, frodyr, i eglwysi Duw y sydd yn Iwdea yng Nghrist Iesu; canys yr un pethau a ddioddefasoch chwi hefyd gan eich cyd-genedl,
15fel hwythau hefyd gan yr Iwddewon, y rhai a laddasant yr Arglwydd Iesu a’r prophwydi, ac a’n herlidiasant ninnau, ac i Dduw nid ydynt yn rhyngu bodd, ac i bob dyn y maent yn wrthwynebus;
16yn gwarafun i ni lefaru wrth y cenhedloedd fel yr achubid hwy, i gyflawni eu pechodau eu hunain yn wastadol; ac arnynt y daeth digofaint Duw hyd yr eithaf.
17A ninnau, frodyr, wedi ein hamddifadu o honoch am ennyd awr, mewn gwyneb, nid mewn calon, a fuom fwy dros ben o astud i weled eich gwyneb, gydag awydd mawr;
18o herwydd paham ewyllysiasom ddyfod attoch, myfi Paul yn wir unwaith a dwywaith, a lluddiodd Satan ni.
19Canys pa beth yw ein gobaith ni, neu ein llawenydd, neu goron ein hymffrost? Onid chwychwi yw, ger bron ein Harglwydd Iesu yn Ei ddyfodiad Ef?
20canys chwychwi yw ein gogoniant a’n llawenydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.