S. Matthew 4 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Yna yr Iesu a arweiniwyd i fynu i’r anialwch gan yr Yspryd, i’w demtio gan ddiafol.

2Ac wedi ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ol hyny y newynodd.

3Ac wedi dyfod Atto, y temtiwr a ddywedodd Wrtho, Os Mab Duw wyt, arch y bo i’r cerrig hyn fyned yn dorthau.

4Ac Yntau gan atteb a ddywedodd, Ysgrifenwyd, “Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn, ond ar bob gair yn dyfod allan trwy enau Duw.”

5Yna y cymmerth diafol Ef i’r ddinas sanctaidd;

6a gosododd Ef ar binacl y deml, a dywedodd Wrtho, Os Mab Duw wyt, bwrw Dy Hun i lawr, canys ysgrifenwyd,

“I’w angylion y gorchymyn Efe am Danat,

Ac ar eu dwylaw y’th ddygant,

Rhag un amser darawo o Honot Dy droed wrth garreg.”

7Dywedodd yr Iesu wrtho, Etto yr ysgrifenwyd, “Ni themti yr Arglwydd dy Dduw.”

8Etto y cymmerth diafol Ef i fynydd tra uchel, a dangosodd Iddo holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant;

9a dywedodd Wrtho, Y rhai hyn oll i Ti a roddaf, os syrthi i lawr a’m haddoli i.

10Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dos ymaith, Satan; canys ysgrifenwyd, “Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac Ef yn unig a wasanaethi.”

11Yna y gadawodd diafol Ef; ac wele, angylion a ddaethant Atto, ac a weiniasant Iddo.

12Ac wedi clywed o Hono fod Ioan wedi ei draddodi, ciliodd i Galilea;

13ac wedi gadael Natsareth, daeth ac arhosodd yn Caphernahwm, yr hon sydd wrth y môr, ynghyffiniau Zabwlwn a Nephthali;

14fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eshaiah y prophwyd, gan ddywedyd,

15“Tir Zabwlwn a thir Nephthali,

Ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen,

Galilea y cenhedloedd;

16Y bobl a eisteddai mewn tywyllwch

A welsant oleuni mawr;

Ac i’r rhai yn eistedd ym mro a chysgod angau,

Goleuni a gododd iddynt.”

17O’r pryd hwnw dechreuodd yr Iesu bregethu a dywedyd, Edifarhêwch, canys nesaodd teyrnas nefoedd.

18Ac wrth rodio wrth fôr Galilea gwelodd ddau frawd, Shimon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r môr, canys yr oeddynt bysgodwŷr,

19a dywedodd wrthynt, Deuwch ar Fy ol, a gwnaf chwi yn bysgodwŷr dynion.

20A hwy yn uniawn, gan adael y rhwydau, a’i canlynasant Ef.

21Ac wedi myned rhagddo oddiyno, gwelodd ddau frawd arall, Iago fab Zebedëus, ac Ioan ei frawd, yn y cwch ynghyda Zebedëus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau;

22a galwodd hwynt; a hwy yn uniawn, gan adael y cwch a’u tad, a’i canlynasant Ef.

23Ac aeth yr Iesu o amgylch yn holl Galilea, gan ddysgu yn eu sunagogau, a chan bregethu Efengyl y deyrnas, a chan iachau pob clefyd a phob afiechyd ym mhlith y bobl.

24Ac aeth allan y sôn am dano Ef i’r holl Suria; a dygasant Atto yr holl rai drwg eu hwyl, gydag amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, rhai cythreulig, a rhai lloerig, a rhai â’r parlys arnynt, ac iachaodd hwynt.

25Ac yr oedd yn Ei ganlyn Ef dorfeydd mawrion o Galilea a Decapolis ac Ierwshalem ac Iwdea ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help