Hebreaid 6 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Gan hyny, wedi rhoddi heibio air dechreuad Crist, at berffeithrwydd dyger ni, heb osod i lawr drachefn sail edifeirwch oddiwrth weithredoedd meirwon, a ffydd tuag at Dduw;

2sail dysgad bedyddiadau ac arddodiad dwylaw;

3ac adgyfodiad y meirw a barn dragywyddol: a hyn a wnawn os caniatta Duw.

4Canys ammhosibl yw o ran y rhai a gawsant unwaith eu goleuo, ac a archwaethasant y rhodd nefol, ac a wnaethpwyd yn gyfrannogion o’r Yspryd Glân,

5ac a archwaethasant air mad Duw a galluoedd y byd ar ddyfod,

6ac a syrthiasant ymaith, eu hadnewyddu drachefn i edifeirwch, gan ail-groeshoelio o honynt iddynt eu hunain Fab Duw, ac Ei osod yn watwor.

7Canys y ddaear yr hon sy’n yfed y gwlaw sy’n dyfod yn fynych arni, ac sy’n dwyn llysiau cymmwys i’r rhai hyny er mwyn y rhai y llafurir hi hefyd, derbyn bendith gan Dduw y mae;

8ond pan yn dwyn drain a mieri, anghymmeradwy yw ac agos i felldith; ac ei diwedd yw ei llosgi.

9Ond coelio yr ydym am danoch chwi, frodyr, y pethau sydd well ac ynglyn wrth iachawdwriaeth, er mai fel hyn y llefarwn:

10canys nid anghyfiawn yw Duw, fel yr anghofio eich gwaith a’r cariad a ddangosasoch tuag at Ei enw, pan weiniasoch i’r saint, ac yn gweini iddynt.

11A chwennychwn i bob un o honoch ddangos yr un diwydrwydd tua llawnder gobaith hyd y diwedd,

12fel nad musgrell y byddoch, ond efelychwyr y rhai trwy ffydd ac amynedd sy’n etifeddu yr addewidion.

13Canys pan i Abraham yr addawodd, Duw, gan na myn neb oedd fwy y gallai dyngu, a dyngodd myn Ef Ei hun,

14gan ddywedyd, “Yn ddiau gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau y’th amlhaf.”

15Ac felly, wedi dioddef yn amyneddgar, y cafodd yr addewid.

16Canys dynion myn un a fo mwy a dyngant; ac iddynt hwy, terfyn pob ymryson, er cadarnhad, yw’r llw.

17Yn hyn, Duw yn ewyllysio dangos yn helaethach i etifeddion yr addewid anghyfnewidioldeb Ei gynghor,

18a gyfryngodd â llw, fel trwy ddau beth anghyfnewidiol, yn y rhai ammhosibl yw celwyddu o Dduw, annogaeth cryf fyddai genym ni a ffoisom, i gymmeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen,

19yr hwn sydd genym fel angor yr enaid, yn ddiogel, ac yn ddiymmod,

20ac yn myned i mewn i’r tu fewn i’r llen, lle y mae Rhag-redwr trosom wedi myned i mewn, Iesu, wedi Ei wneuthur, yn ol dull Melchitsedec, yn Arch-offeiriad yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help