S. Luc 13 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac yr oedd yn bresennol, yr un amser hwnw, rai yn mynegi Iddo am y Galileaid, gwaed y rhai a gymmysgodd Pilat ynghyda’u haberthau.

2A chan atteb, dywedodd wrthynt, A dybygwch chwi yr oedd y Galileaid hyn yn bechaduriaid rhagor yr holl Galileaid am mai y pethau hyn a ddioddefasant?

3Nac oeddynt, meddaf i chwi; eithr onid edifarhewch, yr oll o honoch a ddifethir yr un ffunud.

4Neu’r deunaw hyny, ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Shiloam, ac a’u lladdodd, a dybygwch chwi yr oeddynt hwy yn

5bechaduriaid rhagor yr holl ddynion yn cyfanneddu yn Ierwshalem? Nac oeddynt, meddaf i chwi; eithr onid edifarhewch, yr oll o honoch a ddifethir yn yr un modd.

6A dywedodd y ddammeg hon, Ffigysbren oedd gan ryw un, wedi ei blannu yn ei winllan; a daeth gan geisio ffrwyth arno, ac ni chafodd;

7a dywedodd wrth y gwinllanydd, Wele, tair blynedd sydd er’s dyfod o honof gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, ac nid wyf yn cael dim: tor ef i lawr, paham y gwneir y tir hefyd yn ddirym ganddo?

8Ac efe, gan atteb, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni chloddiwyf o’i amgylch,

9a bwrw tail: ac os dwg efe ffrwyth o hyn allan—; onite, tor ef i lawr.

10Ac yr oedd Efe yn dysgu yn un o’r sunagogau ar y Sabbath.

11Ac wele, gwraig a chanddi yspryd yn gwanhau ddeunaw mlynedd, ac oedd wedi cyd-grymmu, ac heb allu ymsythu mewn modd yn y byd.

12A phan welodd Efe hi, yr Iesu a’i galwodd Atto, a dywedodd wrthi, Ha wraig,

13gollyngwyd di yn rhydd oddiwrth dy wendid; a rhoddes arni Ei ddwylaw; ac yn y fan yr uniawnwyd hi, a gogoneddodd Dduw.

14A chan atteb, yr archsunagogydd, yn sorri am mai ar y Sabbath yr iachaodd yr Iesu, a ddywedodd wrth y dyrfa, Chwe diwrnod sydd yn y rhai y mae rhaid gweithio; ynddynt hwy, gan hyny, deuwch ac iachaer chwi, ac nid ar ddydd y Sabbath.

15Ac iddo yr attebodd yr Arglwydd, a dywedodd, Rhagrithwyr, onid yw pob un o honoch ar y Sabbath yn gollwng ei ŷch neu ei asyn o’r preseb, a chan ei arwain ymaith, yn ei ddiodi ef?

16A hon, merch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd, onid oedd rhaid ei gollwng o’r rhwym hwn ar ddydd y Sabbath?

17Ac Efe yn dywedyd y pethau hyn, cywilyddiwyd ei holl wrthwynebwyr, a’r holl dyrfa a lawenychodd am yr holl bethau gogoneddus a wnaid Ganddo.

18Dywedodd, gan hyny, I ba beth y mae teyrnas Dduw yn gyffelyb?

19Ac i ba beth y cyffelybaf hi? Cyffelyb yw i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn ac a’i hauodd yn ei ardd; a chynnyddodd efe ac aeth yn bren, ac ehediaid y nef a lettyasant yn ei ganghennau ef.

20A thrachefn y dywedodd, I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?

21Cyffelyb yw i surdoes a gymmerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri seah o flawd, hyd oni surodd y cwbl.

22A thramwyodd trwy ddinasoedd a phentrefi, gan ddysgu ac ymdeithio i Ierwshalem.

23A dywedodd rhyw un Wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai sy’n cael eu cadw?

24Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Ymdrechwch i fyned i mewn trwy’r porth cyfyng; canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn ac ni fyddant yn abl.

25Pan ddarffo i ŵr y tŷ gyfodi, a chau’r drws,

A dechreu o honoch sefyll oddi allan a churo’r drws,

Gan ddywedyd, Arglwydd, agor i ni,

A chan atteb y dywaid wrthych, Nid adwain chwi, o ba le yr ydych.

26Yna y dechreuwch ddweud, Bwyttasom yn Dy wydd Di, ac yfasom,

Ac yn ein llydanfeydd y dysgaist.

27A dywaid Efe, Dywedaf wrthych, Nis gwn o ba le yr ydych,

Ewch ymaith Oddiwrthyf, yr holl weithwyr anghyfiawnder.

28Yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd,

Pan weloch Abraham ac Itsaac ac Iacob,

A’r holl brophwydi, yn nheyrnas Dduw,

A chwychwi yn cael eich bwrw allan.

29A deuant o’r dwyrain a’r gorllewin,

Ac o’r gogledd a’r dehau,

A lled-orweddant yn nheyrnas Dduw.

30Ac wele, olaf yw’r rhai a fyddant flaenaf,

A blaenaf yw’r rhai a fyddant olaf.

31Yr awr honno daeth Atto rai o’r Pharisheaid, gan ddywedyd Wrtho, Dos allan a cherdda oddiyma, canys Herod a ewyllysia Dy ladd Di.

32A dywedodd wrthynt, Ewch a dywedwch wrth y cadnaw hwnw, Wele, bwrw allan gythreuliaid yr wyf, ac iachadau a wnaf, heddyw ac y foru, a’r trydydd dydd y’m perffeithir.

33Eithr rhaid sydd i Mi heddyw, ac y foru, a thrennydd, fod ar Fy nhaith, canys ni all fod i brophwyd ei gyfrgolli tu allan i Ierwshalem,

34Ierwshalem, Ierwshalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi,

Ac yn llabyddio y rhai a ddanfonwyd attat,

Pa sawl gwaith y mynnwn gasglu ynghyd dy blant,

Yn y modd y cydgasgl giar ei chywion dan ei hadennydd, ac ni fynnech!

35Wele, gadewir i chwi eich tŷ; a dywedaf wrthych,

Myfi ni welwch ddim nes dweud o honoch,

Bendigedig yw’r Hwn sy’n dyfod yn Enw’r Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help