Psalmau 14 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XIV.hwy,

Heb neb yn gwneud yr hyn sy dda:

2Iehofah, o ’r nefoedd, a edrychodd allan ar feibion dynion,

I weled a oedd neb pwyllog,

Neb a geisiai Dduw:—

3Pob un a wrthgiliasai, ynghŷd y troisant yn sur;

Nid oes a wnel y da,—nid oes hyd yn oed un.

4Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd?

Bwyttawyr fy mhobl a fwyttasant fara,

Ar Iehofah ni alwasant:

5Yna y dychrynasant hwy â dychryn,

Canys Duw (sydd) ynghenhedlaeth y cyfiawn.

6Cynghor y cystuddiedig a waradwyddwch,

Am mai Iehofah (yw) ei noddfa ef!

7Oh na roddasid, o Tsïon, waredigaeth Israel!

Pan ddychwelo Iehofah gaethiwed Ei bobl

Y gorfoledda Iacob, y llawenhâ Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help