1I’r blaengeiniad tros yr offer tannau.
2Awdl addysgiadol o eiddo Dafydd, pan ddaeth y Ziphiaid a dywedyd wrth Shäwl, “Onid (ydyw) Dafydd yn ymguddio gyda ni?”
3O Dduw, trwy Dy enw achub fi,
A thrwy Dy gadernid gwna farn i mi;
4O Dduw, clyw fy ngweddi,
Gwrando eiriau fy ngenau!
5Canys dïeithriaid a gyfodasant i’m herbyn,
A’r angerddol rai a geisiant fy enaid,
Ni osodasant Dduw o’u blaen. Selah.
6Wele, Duw (sydd) yn fy nghynnorthwyo,
Yr Arglwydd (sydd) ym mysg cynnalwyr fy enaid;
7Fe dâl Efe y drwg i’m gelynion; —
—Yn Dy ffyddlondeb diddyma hwynt!
8O wirfodd yr aberthaf i Ti,
Clodforaf Dy enw, O Iehofah, canys da (yw);
9Canys o bob cyfyngder y syllodd fy llygad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.