1Gan hyny, diesgus wyt, O ddyn, bob un y sy’n barnu, canys yn yr hyn y berni y llall, condemnio ti dy hun yr wyt, canys yr un pethau yr wyt ti y sy’n barnu, yn eu gwneuthur.
2A gwyddom fod barn Duw yn ol gwirionedd yn erbyn y rhai sy’n gwneuthur y fath bethau.
3Ac a dybi di hyn, O ddyn y sy’n barnu y rhai yn gwneuthur y fath bethau ac yn eu gwneuthur hwynt, y diengi di rhag barn Duw?
4Ai golud Ei ddaioni a’i ddioddefgarwch, a’i hwyrfrydigrwydd Ef a ddirmygi, gan fod heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys i edifeirwch,
5ond yn ol dy galedrwydd a’th galon ddiedifeiriol yr wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint yn nydd digofaint a datguddiad cyfiawn farn Duw,
6yr hwn a dal i bob un yn ol ei weithredoedd,
7sef i’r rhai sydd trwy amynedd yng ngweithred dda yn ceisio gogoniant ac anrhydedd ac anllygredigaeth, fywyd tragywyddol;
8ond i’r rhai cynhenus ac yn anufudd i’r gwirionedd, ond yn ufudd i anghyfiawnder,
9y bydd digofaint a llid, trallod ac ing ar bob enaid dyn sy’n gweithredu yr hyn sy ddrwg,
10yr Iwddew yn gyntaf a’r Groegwr hefyd; ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd i bob un sy’n gweithredu yr hyn sy dda,
11i’r Iwddew yn gyntaf a’r Groegwr hefyd, canys nid oes derbyn gwyneb gyda Duw.
12Canys cynnifer ag a bechasant heb y Gyfraith, heb y Gyfraith y derfydd am danynt; a chynnifer ag a bechasant tan y Gyfraith, trwy’r Gyfraith y bernir hwynt,
13canys nid gwrandawyr y Gyfraith sydd gyfiawn gyda Duw, ond gwneuthurwyr y Gyfraith a gyfiawnheir.
14Canys pan fo’r cenhedloedd, y rhai sydd heb y Gyfraith ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur pethau’r Gyfraith, y rhai hyn, heb y Gyfraith ganddynt,
15ydynt gyfraith iddynt eu hunain; y rhai sy’n dangos gwaith y Gyfraith wedi ei ysgrifenu yn eu calonnau, eu cydwybod hwy yn cyd-dystiolaethu; a’u meddyliau, rhyngddynt a hwy eu gilydd, yn cyhuddo neu yn esgusodi, yn y dydd pan y barna Duw y pethau cuddiedig gan ddynion,
16yn ol fy Efengyl, trwy Iesu Grist.
17A thydi, os Iwddew y’th enwir, ac ymorphwyso o honot ar y Gyfraith,
18ac yn ymffrostio yn Nuw, ac yn gwybod Ei ewyllys, ac yn darbod y pethau rhagorol, wedi dy ddysgu o’r Gyfraith;
19yn coelio dy hun yn dywysog i’r deillion, yn oleuni i’r rhai mewn tywyllwch, yn ddiwygiwr ynfydion,
20yn ddysgawdwr y rhai bach; a chenyt ffurf gwybodaeth a’r gwirionedd yn y Gyfraith;
21yr hwn, gan hyny, wyt yn dysgu arall, ai ti dy hun na ddysgi di? Yr hwn wyt yn pregethu peidio â lladratta, ai lladratta yr wyt?
22Yr hwn wyt yn dywedyd peidio â godinebu, ai godinebu yr wyt? Yr hwn wyt yn ffieiddio yr eulunod, ai yspeilio temlau yr wyt?
23Yr hwn, yn y Gyfraith yr ymffrosti, ai trwy droseddiad y Gyfraith y mae Duw yn cael Ei ddianrhydeddu genyt?
24canys enw Duw, o’ch plegid chwi y’i ceblir ym mhlith y cenhedloedd, fel y mae yn ysgrifenedig.
25Canys amdorriad yn wir sy’n llesau, os y Gyfraith a wnei; ond os troseddwr y Gyfraith wyt, dy amdorriad a aeth yn ddiamdorriad.
26Os y diamdorriad, gan hyny, a geidw ddeddfau’r Gyfraith, oni fydd i’w ddiamdorriad ef ei gyfrif yn amdorriad,
27a barnu o’r diamdorriad y sydd o naturiaeth, pan y Gyfraith a gyflawno efe, di yr hwn, ynghyda’r llythyren ac amdorriaeth, wyt yn droseddwr y Gyfraith?
28Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iwddew, na’r hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd sydd amdorriad;
29eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iwddew, ac amdorriad yw amdorriad y galon yn yr yspryd, nid yn y llythyren; clod yr hwn, nid o ddynion y mae, ond o Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.