1Yna yr attebodd Iöb a dywedodd,
2Yn wir mi a wn mai felly (y mae);
Ac ym mha beth y bydd adyn yn gyfiawn ger bron Duw?
3Os myn efe ymryson âg Ef,
Nid ettyb efe i un (peth) allan o fil:
4Gan fod yn ddoeth o galon a galluog o nerth
Pwy a galedodd (wddf) yn Ei erbyn Ef ac a fu ddi-friw?
5Yr Hwn sy’n symmud mynyddoedd a hwythau heb ei ragweled,
Y rhai a ddadymchwel Efe yn Ei lid;
6Yr Hwn sy’n cynhyrfu’r ddaear allan o’i lle,
Fel y bo i’w cholofnau grynu;
7Yr Hwn sy’n dywedyd wrth yr huan ac ni ddisgleiria efe,
Ac o amgylch y ser a selia;
8Yr Hwn sy’n gostwng y nefoedd Ei hun,
Ac yn cerdded ar ymddyrchafiadau ’r môr;
9Yr Hwn a wnaeth yr Arth,
Orion, a’r Pleiades,
Ac ystafelloedd y dehau;
10Yr Hwn sy’n gwneuthur pethau mawrion hyd nad (oes eu) chwilio,
A phethau rhyfeddol hyd nad (oes eu) rhifo:
11Wele, Efe a ruthrodd arnaf ac nid wyf yn (Ei) weled,
Ymosododd arnaf ac nid wyf yn Ei ganfod.
12Os cymmer Efe afael, pwy a’i trŷ yn ol;
Pwy a ddywaid wrtho “Pa beth yr wyt yn ei wneuthur?”
13 Ni thrŷ Duw Ei ddigllonedd yn ol,
Dano Ef y crymmodd cynhorthwywŷr Rahab;
14 Pa faint llai y byddai i myfi atteb iddo Ef,
A dewis fy ngeiriau yn Ei erbyn?
15I’r Hwn, ped fai ’r iawn o f’ochr, nid attebwn,
Ond â ’m Hymgyfreithiwr yr ymbiliwn;
16Pe galwn i Ef (i’r llys) ac Efe a’m hattebai,
Ni chredwn Ei fod yn gwrandaw ar fy llais,
17Yr Hwn mewn corwŷnt a ymosodai arnaf,
Ac a amlhâai fy archollion yn ddiachos;
18Ni ddioddefai Efe i mi gyrchu fy anadl,
Ond gorddigonai fi â chwerwderau.
19Os (sonir) am nerth y cadarn — wele!
Neu os am farn, — pwy a bennoda ddydd i mi?
20Er bod yr iawn o f’ochr, fy ngenau a’m heuogent,
A myfi yn ddieuog hwy a’m dangosent yn gŵyro.
21Dieuog (wyf) fi! nid wyf yn maliaw am fy mywyd!
Ffieiddio fy einioes yr wyf fi!
22Un (rheol yw) hi; gan hyny lleferais;
Y dieuog a’r euog y mae Efe yn eu difetha:
23Os y ffrewyll a ladd yn ddisymmwth,
Ar ben profedigaethau ’r diniweid y chwardd Efe:
24Y ddaear a roddwyd yn llaw’r annuwiol,
Gwynebau ei barnwŷr hi a orchuddia Efe;
Os nad felly (y mae), pwy (yw) ’r hwn (sy’n gwneud hyny)?
25Fy nyddiau ydynt gynt na chennadwr cyflymred,
Ffoi y maent, ni welant ddaioni,
26Myned heibio y maent fel ddyddiwr,
Yr hwn a osodai ei law arnom ein dau.
34Pe tynnai Efe ymaith Ei wialen oddi arnaf,
A’i ddychryniadau ni ’m brawychent,
35Mi a lefarwn ac nid ofnwn,
Canys nid felly myfi ynof fy hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.