Psalmau 73 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

Y TRYDYDD LLYFR.LXXIII.

1Psalm o eiddo Asaph.

Nid dim ond da i Israel (yw) Duw,

I’r rhai glân o galon:

2Ond myfi,—braidd na wyrodd fy nhraed,

Prin na lithrodd fy nghamrau,

3O herwydd cynfigennu o honof wrth y trahäus rai,

(A) gweled o honof lwyddiant yr annuwiolion,

4Nad (oes) cyfyngderau (arnynt) hyd eu marwolaeth,

Mai tew (yw) eu bôl,

5Ynhrallodau pobl nad (ydynt) hwy,

A chyda dynion eraill na tharewir hwynt:

6Gan hynny, torch gwddf iddynt yw eu balchder,

A gwisg addurnawl yw trais am danynt,

7Dyfod allan o bilen y galon y mae eu hanwireddau,

Rhedeg trosodd y mae meddyliau (eu) calon;

8Gwatwarant, a llefarant, mewn drygioni, am drais,

Mewn trahausdra y llefarant;

9Gosodant eu genau yn erbyn y nefoedd,

A’u tafod a ymrodia ar y ddaear:

10Gan hynny dyfod y mae Ei bobl Ef at hyn,

A dyfroedd llawnder a ddifyr-lyngcant iddynt eu hunain,

11A dywedant, “Pa fodd y gŵyr Duw,

Ac a oes gwybodaeth yn y Goruchaf?”

12“Wele, dyma yr annuwiolion,

Ac yn ddïogel byth yr amlhânt gyfoeth;

13Nid dim ond yn ofer y glanhêais fy nghalon,

Ac y golchais mewn diniweidrwydd fy nwylaw,

14Ac y bûm wedi fy nharaw bob dydd,

Ac (y byddai) fy ngheryddiad bob bore:”

15Pe meddyliaswn “Llefaraf felly,”

Wele, i genhediaeth Dy blant Di y buaswn fradwr:

16Ond amcenais ddeall hyn;

Gwaith caled (oedd) hynny yn fy ngolwg

17Nes yr aethum i gyssegr Duw,

(Ac) yr ystyriais eu diwedd hwynt—(sef),

18Nid dim ond mewn llithrigfëydd eu gosod yr wyt,

Peri iddynt syrthio i dwylliadau yr wyt!

19Y modd yr ânt yn anghyfannedd mewn amrant,

Y dilëir hwynt, y darfyddant gan ofnau!

20Fel breuddwyd ar ol dihuno,

O Arglwydd, pan ddeffroech, eu cysgod-lun hwynt a ddirmygi!

21 Pan ymchwerwodd fy nghalon,

Ac yn fy arennau y’m trywanwyd,

22Yna myfi,—oeddwn ysgrublaidd, ac ni ddeallais,

Bwystfil (oeddwn) tuag attat Ti.

23Etto myfi,—wyf beunydd gyda Thi,

Ymaflaist yn fy llaw ddehau,

24Yn Dy gynghor y’m harweini,

A chwedi’n (mewn) gogoniant y’m cymmeri.

25 Pwy (sydd) gennyf yn y nefoedd?

Ac ynghyda Thydi, nid ymhyfrydais (mewn dim) ar y ddaear;

26Pallodd fy nghnawd, a’m calon,

(Ond) craig fy nghalon, a’m cyfran (yw) Duw yn dragywydd;

27Canys wele, y rhai a bellhânt oddi Wrthyt a ddifethir,

butteinio oddi Wrthyt;

28Eithr myfi,—nesâu at Dduw (sydd) dda i mi,

Gosodaf yn yr Arglwydd Iehofah fy noddfa,

I draethu Dy holl weithredoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help