Rhufeiniaid 11 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Dywedaf, gan hyny, A fwriodd Duw ymaith Ei bobl? Na atto Duw: canys myfi hefyd, Israeliad wyf, o had Abraham, o lwyth Beniamin.

2Ni fwriodd Duw ymaith Ei bobl, yr hon a rag-adnabu Efe. Oni wyddoch pa beth ym matter Elias, a ddywaid yr Ysgrythyr, y modd yr erfyn efe ar Dduw yn erbyn Israel,

3sef “Arglwydd, Dy brophwydi a laddasant hwy; Dy allorau a gloddiasant hwy i lawr; ac myfi a adawyd yn unig; a cheisio fy einioes i y maent.”

4Eithr pa beth a ddywaid atteb Duw wrtho? “Gadewais i Mi Fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasgant lin i Baal.”

5Felly, gan hyny, yn yr amser presennol hefyd, gweddill,

6yn ol etholedigaeth gras, y sydd; ac os trwy ras, nid yw mwyach o weithredoedd, canys pe amgen, gras nid yw mwyach yn ras.

7Pa beth, gan hyny? Yr hyn y mae Israel yn ei geisio, hyny ni chafodd efe; ond yr etholedigaeth a’i cafodd,

8a’r lleill a galedwyd, fel yr ysgrifenwyd,

“Rhoddes Duw iddynt yspryd trymgwsg,

Llygaid fel na welent,

A chlustiau fel na chlywent,”

9hyd y dydd heddyw. A Dafydd a ddywaid,

“Bydded eu bwrdd yn fagl ac yn hoenyn,

Ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt;

10Tywyller eu llygaid fel na welont;

Ac eu cefn, cydgrymma ef bob amser.”

11Dywedaf, gan hyny, A dripiasant hwy fel y syrthient? Na atto Duw; eithr trwy eu cwymp, iachawdwriaeth sydd i’r cenhedloedd,

12er mwyn gyrru eiddigedd arnynt; ac os yw eu cwymp yn olud y byd, ac eu colled yn olud y cenhedloedd, pa faint mwy y bydd eu cyflawnder?

13Ac wrthych chwi y cenhedloedd y dywedaf, Yn gymmaint ag fy mod i yn apostol y cenhedloedd, fy ngweinidogaeth a ogoneddaf,

14os rhyw fodd y gyrrwyf eiddigedd ar y rhai ydynt fy nghnawd,

15ac achub o honof rai o honynt: canys os eu bwrw hwynt ymaith yw cymmod y byd, pa beth fydd eu derbyniad ond bywyd o feirw?

16Ac os yw’r blaen-ffrwyth yn sanctaidd, y clamp toes hefyd sydd felly; ac os yw’r gwreiddyn yn sanctaidd, y canghennau hefyd ydynt felly.

17Ac os rhai o’r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi, yn olew-wydden wyllt, a impiwyd i mewn yn eu plith, ac yn gydgyfrannog â hwynt o wreiddyn brasder yr olew-wydden y’th wnaethpwyd,

18nac ymffrostia yn erbyn y canghennau; ac os ymffrosti yn eu herbyn, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi.

19Dywedi, gan hyny, Torrwyd ymaith ganghennau, fel y byddai i mi fy impio i mewn.

20Da. Trwy eu hanghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith; a thydi, trwy dy ffydd yr wyt yn sefyll.

21Na fydd uchel-fryd, eithr ofna; canys os y canghennau naturiol na fu i Dduw eu harbed, tithau nid arbeda Efe er dim.

22Gwel, gan hyny, ddaioni a thoster Duw; tua’r rhai a gwympasant, doster; ond tuag attat ti, ddaioni Duw, os parhai yn Ei ddaioni; onite, tithau hefyd a dorrir ymaith;

23a hwythau hefyd, os na pharhant yn eu hanghrediniaeth, a impir i mewn, canys abl yw Duw i’w himpio hwynt i mewn drachefn.

24Canys os tydi a dorrwyd allan o’r olew-wydden wyllt wrth naturiaeth, ac yn erbyn naturiaeth y’th impiwyd i mewn i olew-wydden dda, pa faint mwy y bydd i’r rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holew-wydden eu hun?

25Canys nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod, frodyr, y dirgelwch hwn, rhag i chwi fod yn ddoethion yn eich meddwl eich hun, fod calediad o ran wedi digwydd i Israel nes i gyflawnder y cenhedloedd ddyfod i mewn;

26ac felly holl Israel fydd gadwedig, fel yr ysgrifenwyd,

“Daw allan o Tsion y Gwaredwr,

Try ymaith annuwioldeb oddiwrth Iacob;

27A hwn yw iddynt y cyfammod oddiwrthyf Fi;

Pan gymmerwyf ymaith eu pechodau.”

28O ran yr efengyl, gelynion ydynt er eich mwyn chwi; ond o ran yr etholedigaeth, yn anwyl er mwyn y tadau;

29canys heb edifeirwch am danynt y mae doniau a galwedigaeth Duw.

30Canys fel y buoch chwi gynt yn anufudd i Dduw, ond yn awr y trugarhawyd wrthych trwy anufudd-dod y rhai hyn;

31felly y rhai hyn yn awr a anufuddhasant, fel trwy y drugaredd i chwi y trugarheid wrth y rhai hyn hefyd yn awr;

32canys cyd-gauodd Duw bawb i anufudd-dod, fel wrth bawb y trugarhai.

33O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw!

Mor anchwiliadwy yw Ei farnau, ac anolrheiniadwy Ei ffyrdd!

34Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd; neu pwy fu gynghorwr Iddo?

35Neu pwy a rag-roddodd Iddo, ac y telir yn ol iddo?

36Canys o Hono Ef, a thrwyddo Ef, ac Iddo Ef y mae pob peth!

Iddo Ef y bo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help