1Canys wele yr Arglwydd, Iehofah y lluoedd,
Yn tynnu ymaith o Ierwshalem ac o Iwdah
Gynhaliaeth a chynnorthwy,
Holl gynhaliaeth bara, a holl gynhaliaeth dwfr,
2Y cadarn a’r rhyfelwr,
Y brawdwr, a’r prophwyd, a’r dewin, a’r henuriad,
3Y tywysog deg a deugain, a’r dyrchafedig ei wyneb,
A’r cynghorwr, a’r celfydd grefftwr, a’r medrus mewn ymadrodd;
4A rhoddaf fechgyn yn dywysogion iddynt,
A babannod a arglwyddiaethant arnynt.
5A gorthrymmir y bobl,
Dyn gan ddyn, a dyn gan ei gymhar;
Ac ymfalchïant, y bachgen yn erbyn yr henwr,
A’r gwael yn erbyn yr anrhydeddus.
6Gan hynny yr ymeifl gwr yn ei frawd o dŷ ei dad wrth ei wisg, gan ddywedyd,
Tyred, a bydd dywysog i ni,
A (bydded) yr adfail hwn dan dy law di.
7Yna yntau a gyfyd (ei lais) yn y dydd hwnnw gan ddywedyd,
Ni byddaf iachâwr,
Canys yn fy nhŷ nid (oes) fara na dillad;
Na osodwch fi yn dywysog i’r bobl.
8Canys siglo y mae Ierwshalem, ac Iwdah yn syrthio,
O herwydd eu tafod a’u gweithredoedd (sydd) yn erbyn Iehofah,
I gyffrôi llygaid Ei ogoniant Ef.
9Syll eu hwynebau sy’n tystiolaethu yn eu herbyn,
A’u pechodau, fel Sodom, y maent yn eu mynegu (ac) nid yn eu celu;
Gwae eu henaid! canys parasant iddynt eu hunain ddrwg.
10Dywedwch wrth y cyfiawn mai da (fydd iddo,)
Canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwyttânt;
11Gwae’r anwir, drwg (fydd iddo),
Canys gwobr ei ddwylaw ei hun a wneir iddo.
12Fy mhobl, eu treiswŷr (sydd) blant,
A gwragedd sydd yn arglwyddiaethu arnynt.
Fy mhobl, y rhai a’th dywysant sy’n peri (i ti) gyfeiliorni,
A ffordd dy lwybrau y maent yn eu distrywio.
13Cyfodi i ymddadleu y mae Iehofah,
A sefyll i farnu ’r bobloedd.
14 Iehofah『2a ddaw』『1i farn』
 henuriaid Ei bobl, a’u tywysogion;
Canys chwychwi a ysasoch y winllan,
Anrhaith y tlawd (sydd) yn eich tai.
15Beth (sydd) i chwi a ysigoch Fy mhobl,
Ac a 3faloch 1wynebau ’r 2tlodion?
Medd yr Arglwydd, Iehofah y lluoedd.
16A dywedodd Iehofah;
O herwydd balchïo o ferched Tsïon,
A rhodio gan estyn y gwddf,
A chilolygu â’u llygaid,
Gan rodio a rhygyngu wrth gerdded,
A chyda’u traed yn tingeio;
17Gan hynny y clafra ’r Arglwydd gorynnau merched Tsïon,
Ac Iehofah eu gwarthle hwynt a ddinoetha;
18Yn y dydd hwnnw y tyn yr Arglwydd ymaith addurn
Modrwyau ’r traed, a’r rhwydwaith, a’r cefn-lloerau,
19Y clustdlysau, a’r breichledau, a’r gorchuddion teneuon,
20Y penguwch, y llyffetheiriau, a’r gwregysau,
A’r blychau per-arogl, a’r swyn-gyfareddion,
21Y modrwyau, a thlysau ’r trwyn,
22Y gwisgoedd brodiedig, a’r huganau,
A’r cochlau, a’r pyrsau bychain,
23A’r dillad tryloyw, a’r lliain meinwŷch,
A’r meitrau, a’r mentyll:
24Ac y bydd yn lle per-arogl grawniad,
Ac yn lle gwregys, garpiau,
Ac yn lle plethiad gwallt, foelni,
Ac yn lle dwyfronneg, wregys o sachlïain,
A chroen haul-felyn yn lle prydferthwch:
25Dy bobl gan y cleddyf a syrthiant,
A’th gadernid mewn rhyfel.
26A gofidia a galara ei phyrth hi,
A hithau, yn anrheithiedig, ar y ddaear a eistedd:
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.