Datguddiad 18 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ar ol y pethau hyn gwelais angel arall yn disgyn o’r nef, a chanddo awdurdod fawr; a’r ddaear a oleuwyd gan ei ogoniant.

2A gwaeddodd â llais cadarn, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babulon fawr, ac aeth yn drigfa cythreuliaid, ac yn gadwfa i bob yspryd aflan, ac yn gadwfa i bob aderyn aflan ac atgas:

3canys gan win llid ei phutteindra y syrthiodd yr holl genhedloedd; a brenhinoedd y ddaear gyda hi a butteiniasant; a marchnattawyr y ddaear, trwy allu ei thrythyllwch yr aethant yn oludog.

4A chlywais lais arall o’r nef, yn dywedyd, Deuwch, Fy mhobl, allan o honi, fel na byddoch gydgyfrannogion o’i phechodau,

5ac fel o’i phlaau na dderbynioch, canys cyrhaeddodd ei phechodau hyd y nef, a chofiodd Duw ei hanghyfiawnderau:

6telwch iddi fel y bu iddi hi dalu; a dyblwch y ddwbl yn ol ei gweithredoedd; yn y cwppan a gymmysgodd hi, cymmysgwch iddi yn ddau-ddyblyg:

7cymmaint ag y gogoneddodd ei hun ac y trythyllodd, y cymmaint arall rhoddwch iddi o boen a galar; canys yn ei chalon y dywedodd, Eistedd yr wyf yn frenhines, a gweddw nid wyf,

8a galar nis gwelaf ddim: o herwydd hyn, mewn un dydd y daw ei phlaau, marwolaeth a galar a newyn; ac â thân y llosgir hi, canys cadarn yw yr Arglwydd Dduw, yr Hwn a’i barnodd:

9a gwylo a galaru drosti a wna brenhinoedd y ddaear, y rhai gyda hi a butteiniasant ac a drythyllasant, pan edrychont ar fwg ei llosgiad,

10yn sefyll o hirbell gan ofn ei phoeniad, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr, Babulon, y ddinas gadarn, canys mewn un awr y daeth ei barn.

11A marchnattawyr y ddaear a wylant ac a alarant drosti, canys eu llong-lwyth nid oes neb yn prynu mwyach,

12llong-lwyth o aur ac arian a maen gwerthfawr a pherlau a lliain main a phorphor a sidan ac ysgarlad; na phob coed citron, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawroccaf ac o bres ac o haiarn ac o faen marmor,

13a chinnamon ac amomon a pher-aroglau ac ennaint a thus a gwin ac olew a pheilliaid a gwenith ac ysgrubliaid a defaid; nac o feirch a cherbydau a chaeth-weision;

14nac eneidiau dynion: a chynhauaf dymuniad dy enaid di a aeth ymaith oddiwrthyt, ac mwyach ni chânt mo honynt.

15Marchnattawyr y pethau hyn, y rhai a aethant yn oludog ganddi, o hirbell y safant gan ofn ei phoeniad,

16yn gwylo a galaru, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr, yr hon oedd wedi ei gwisgo â lliain main a phorphor ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur a maen gwerthfawr a pherl:

17canys mewn un awr yr amddifadwyd y golud mor fawr. A phob llong-lywydd, a phob un yn hwylio i neb rhyw le, a llongwyr, a chynnifer ag ar y môr y mae eu gorchwyl,

18o hirbell y safasant, a gwaeddasant wrth edrych ar fwg ei llosgiad gan ddywedyd, Pa ddinas sydd debyg i’r ddinas fawr?

19A bwriasant lwch ar eu pennau, a gwaeddasant dan wylo a galaru, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr, yn yr hon y cyfoethogwyd yr holl rai a chanddynt eu llongau ar y môr, o herwydd eu gwerthfawrogrwydd, canys mewn un awr yr amddifadwyd hi.

20Ymhyfryda drosti, o nef, a’r seintiau a’r apostolion a’r prophwydi, canys barnodd Duw eich barnedigaeth ganddi.

21A chododd un angel cadarn faen fel maen melin mawr, a bwriodd ef i’r môr gan ddywedyd, Fel hyn gyda rhuthr y bwrir Babulon, y ddinas fawr, ac ni cheir mo’ni mwyach;

22a llais telynorion a cherddorion a phibyddion ac udganwyr ni chlywir mo’no ynot mwyach; a phob celfyddwr, o bob celfydd, ni cheir mo’no ynot mwyach; a swn maen melin ni chlywir mo’no ynot mwyach;

23a llewyrch llusern ni lewyrcha mo’no ynot mwyach; a llais priodas-fab a phriodas-ferch ni chlywir mo’no ynot mwyach; canys dy farchnattawyr oeddynt bennaethiaid y ddaear; canys trwy dy swyn-gyfaredd ar gyfeiliorn y dygpwyd yr holl genhedloedd.

24Ac ynddi hi gwaed prophwydi a saint a gafwyd, ac eiddo’r oll a laddwyd ar y ddaear.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help