Psalmau 78 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

LXXVIII.

1Awdl addysgiadol. I Asaph.

Gwrando, O fy mhobl, ar fy addysg,

Gogwyddwch eich clust at eiriau fy ngenau:

2Agoraf mewn dïareb fy ngenau,

Bwrlymaf ddamhegion o’r cynfyd,

3Y rhai a glywsom ac a wybuom,

A’n tadau a’(u) mynegasant i ni;

4Ni chelwn rhag eu meibion,

Gan fynegi i genhedlaeth ddiweddarach foliant Iehofah.

A’i nerth Ef, a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth Efe,

5Canys sefydlodd Efe hwynt i’w meibion,

6Fel y gwybyddai cenhedlaeth ddiweddarach

—(Sef) plant a enid,

A gyfodent, ac a fynegent i’w meibion hwythau,—

7Ac y gosodent ar Dduw eu hyder,

Ac nad anghofient weithredoedd Duw,

Ac ar Ei orchymynion Ef y dalient,

8Ac na byddent fel eu tadau,

Cenhedlaeth wrthnysig a gwrthryfelgar,

Cenhedlaeth na wadalodd ei chalon,

Ac nid ffyddlon tuag at Dduw oedd ei hyspryd.

9Meibion Ephraim (oeddynt) arfog, ac yn saethu, â’r bwa,

Troisant (eu cefnau) yn nydd y frwydr;

10Ni chredasant gyfammod Duw,

Ac yn Ei addysg Ef y gwrthodasant rodio;

11Anghofiasant Ei weithredoedd Ef,

A’i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai Efe iddynt:

12Yngwydd eu tadau y gwnaeth Efe ryfeddod,

Yn nhir yr Aipht, (ym) maes Tsöan,

13Holltodd y môr a throsgludodd hwynt,

A pharodd sefyll y dyfroedd fel clawdd;

14Tywysodd hwynt â chwmmwl liw dydd,

A’r holl nos â goleuni tân;

15Holltodd y creigiau yn yr anialwch,

A dïododd (hwynt) megis â mawr ddyfroedd, yn ehelaeth;

16Dug allan ffrydiau o’r clegyr,

A pharodd ddisgyn, fel afonydd, ddyfroedd;

17Ond chwannegasant hwy etto bechu yn Ei erbyn Ef,

(A) gwrthryfela yn erbyn y Goruchaf yn y diffaethwch;

18A themtiasant Dduw yn eu calon,

Gan ofyn bwyd iddynt eu hunain,

19A llefarasant yn erbyn Duw,

Dywedasant, “A ddichon Duw

Arlwyo bwrdd yn yr anialwch?

20Wele, tarawodd Efe y graig, a ffrydiodd dyfroedd,

Ac afonydd a orlifasant;

Ai bara hefyd a ddichon Efe ei roddi?

A ddarpara Efe gig i’w bobl?”

21Am hynny y clybu Iehofah, ac y digiodd,

A thân a ennynodd yn erbyn Iacob.

A llid a gyfododd yn erbyn Israel,

22Am na chredasant yn Nuw,

Ac nad ymhyderasant yn Ei iachawdwriaeth Ef:

23A gorchymynodd Efe i’r wybrennau oddi uchod.

A drysau’r nefoedd a agorodd Efe,

24A gwlawiodd arnynt fanna i’w fwytta,

Ac ŷd y nefoedd a roddodd Efe iddynt,

25Bara angylion a fwyttâodd pob un,

Ymborth a ddanfonodd Efe iddynt hyd orddigonedd:

26Gyrrodd y dwyrein-wŷnt yn y nefoedd.

A dug. yn Ei nerth, y deheu-wỳnt,

27A gwlawiodd arnynt gig fel llwch,

Ac fel tywod y môr, adar asgellog;

28A gwnaeth (iddynt) syrthio o fewn eu gwersyll,

O amgylch eu preswylfeydd;

29A bwyttasant, a gorddigonwyd hwy yn ddirfawr.

A’r hyn a flysiasant a ddug Efe iddynt;

30Nid ymadawsent â’r hyn a flysiasant,

Eu bwyd (oedd) etto yn eu safnau.

31A llid Duw a gyfododd yn eu herbyn,

A lladdodd Efe ymhlith eu pasgedig rai,

A gwŷr ieuaingc Israel a orchreiniodd Efe;

32Gyda hyn oll pechasant etto,

Ac ni chredasant i’w ryfeddodau Ef,

33A diflannu mewn tarth y gwnaeth Efe i’w dyddiau,

Ac i’w blynyddoedd mewn dinystr disyfyd:

34Pan laddai Efe hwynt y ceisient Ef,

Y dychwelent ac y chwilient am Dduw,

35Ac y cofient mai Duw (oedd) eu Craig,

Mai Duw, y Goruchaf, (oedd) eu Rhyddhâwr,

36Ond twyllent Ef â’u genau,

Ac â’u tafod y celwyddent Wrtho,

37A’u calon ni fyddai fferf tuag Atto,

Ac ni sicr-safent yn Ei gyfammod Ef,

38Ond Efe,—yn drugarog y maddeu Efe anwiredd, ac ni ddiddyma,

Mynych-ddychwel Efe Ei lid,

Ac ni chyffry Ei holl angerdd,—

39A chofiodd mai cnawd (oeddynt) hwythau,

Gwynt a’r sy’n myned ac na ddychwel:

40Pa sawl gwaith y gwrthryfelasant i’w erbyn yn yr anialwch,

Y gofidiasant Ef yn y diffaethwch,

41Y dychwelasant i brofi Duw,

A Sanct yr Israel a boenasant,

42Heb gofio o honynt Ei law Ef,

A’r dydd pan ryddhaodd Efe hwynt oddi wrth y gorthrymydd,

43Pan y gwnaeth Efe, yn yr Aipht, Ei arwyddion,

A’i ryfeddodau ym maes Tsöan—

44Y trôdd Efe eu hafonydd yn waed,

A’u ffrydiau nad yfent hwy—

45Y danfonodd Efe i’w plith y gwibedyn a’u bwyttâodd,

(A)’r llyffaint a’u difethodd—

46Ac y rhoddes Efe, i lindys yr ŷd, eu cnwd hwynt,

A’u llafur i’r locust—

47Y distrywiodd Efe, â chenllysg, eu gwin-wydd,

Ac eu sycomor-wydd â rhew—

48Ac y traddododd Efe, i’r cenllysg eu gwartheg,

A’u diadellau i’r mellt—

49—Danfon arnynt y mae Efe angerdd Ei lid,

Digter, ac irllonedd, a chyfyngder,

Catrawd o angylion anffawd;

50Llyfnu llwybr y mae Efe i’w lid,

Nid attaliodd, rhag angau, eu henaid hwynt,

A’u bywyd i’r haint a draddodes Efe—

51Y tarawodd Efe bob cyntafanedig yn yr Aipht,

Blaenffrwyth nerth ymhebyll Ham;

52A myned ymaith, fel defaid, a wnaeth Efe i’w bobl,

Ac y’u harweiniodd fel praidd yn yr anialwch,

53Ac y’u tywysodd mewn hyder, heb ofni o honynt,

Ond eu gelynion a orchuddiodd y môr;

54Ac y’u dug i’w oror sanctaidd,

(I)’r mynydd hwn a ynnillodd Ei ddeheulaw—

55Ac y gyrrodd Efe allan o’u blaen genhedloedd,

Ac y rhannodd hwynt yn feddiant etifeddiaeth,

Ac y cyflëodd yn eu pebyll hwynt lwythau Israel?

56 Ond profasant, a gwrthryfelasant yn erbyn Duw, y Goruchaf,

A’i gynreithiau ni chadwasant,

57 bwa llac;

58A digiasant Ef â’u huchelfannau,

Ac a’u delwau cerfiedig y parasant eiddigedd Iddo;

59Clybu Duw ac ymddigiodd,

A ffieiddiodd, yn ddirfawr, Israel;

60A gadawodd breswylfa Shilo,

—Y babell a breswyliasai Efe ym mysg dynion,

61A rhoddodd i gaethiwed Ei ardderchowgrwydd,

A’i brydferthwch yn llaw y gorthrymwr;

62A thraddodes i’r cleddyf Ei bobl,

Ac wrth Ei etifeddiaeth yr ymddigiodd;

63Ei wŷr ieuaingc Ef a fwyttaodd tân,

A’i wyryfon nid udasant,

64Ei offeiriaid gan y cleddyf a gwympasant,

A’i wragedd gweddwon ni wylasant;

65Etto, deffro, fel cysgwr, a wnaeth yr Arglwydd,

Fel gwron a orchfygasid gan win,

66A tharawodd Ei orthrymwyr yn ol,

Gwarth tragywyddol a roddes Efe iddynt;

67A ffieiddiodd babell Ioseph,

A llwyth Ephraim nid etholodd Efe,

68Eithr etholodd lwyth Iwdah,

Mynydd Tsïon, yr hwn a hoffodd Efe,

69Ac adeiladodd, fel yr uchelderau, Ei gyssegr,

Fel y ddaear yr hon a seiliodd Efe yn dragywydd:

70Ac etholodd Ddafydd Ei was,

A chymmerodd ef o gorlannau ’r praidd,

71Oddi ar ol y rhoddwyr sugn y dug Efe ef,

I fod yn fugail ymhlith Iacob, Ei bobl,

Ac ymhlith Israel, Ei etifeddiaeth;

72A bugeiliodd efe hwynt yn ol symlrwydd ei galon,

Ac â dysbwyll ei ddwylaw yr arweiniodd hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help