1Wedi rhoi ymaith, gan hyny, bob drygioni, a phob twyll a rhagrith a chenfigennau,
2a phob enllib, megis babanod newydd eu geni, am yr ysprydol didwyll laeth hiraethwch, fel trwyddo ef y cynnyddoch i iachawdwriaeth, os archwaethasoch mai da yw’r Arglwydd.
3A chan ddyfod Atto Ef, y Maen Byw,
4yr Hwn gan ddynion yn wir a wrthodwyd, ond gyda Duw yn etholedig, yn werthfawr,
5chwychwi hefyd, megis meini byw, a adeiledir yn dŷ ysprydol, er offeiriadaeth sanctaidd i offrymmu aberthau ysprydol cymmeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.
6Canys y mae yn yr Ysgrythyr,
“Wele, gosod yr wyf yn Tsion ben-congl-faen, etholedig, gwerthfawr;
A’r hwn sy’n credu Ynddo Ef, ni chywilyddir ddim.”
7I chwi, gan hyny, y mae’r gwerthfawrogrwydd, y rhai ydych yn credu; ond i’r rhai nad y’nt yn credu,
“Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,
Hwn a wnaed yn ben y gongl,”
8ac
“Yn faen taro, ac yn graig tramgwydd,”
y rhai sy’n taro wrth y Gair, yn anufudd; i’r hwn beth hefyd y’u gosodwyd.
9Ond chwychwi ydych rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl yn feddiant i Dduw fel y mynegoch rinweddau yr Hwn a’ch galwodd chwi allan o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni Ef;
10y rhai gynt nid oeddych bobl, ond yn awr pobl Dduw ydych; y rhai ni thrugarhawyd wrthych, ond yn awr wedi cael trugaredd.
11Anwylyd, cynghoraf chwi megis ymdeithyddion a dieithriaid, i ymgadw oddiwrth chwantau cnawdol, rhai sy’n milwrio yn erbyn yr enaid,
12gan fod a’ch ymarweddiad ymhlith y cenhedloedd yn dda, fel yn yr hyn y maent yn eich enllibio megis drwg-weithredwyr, y bo iddynt, oddiwrth eich gweithredoedd da, gan eu gweled, ogoneddu Duw yn nydd ymweliad.
13Ymddarostyngwch i bob dynol ordinhad, o herwydd yr Arglwydd; pa un bynnag ai i frenhin, megis goruchaf;
14ai i lywiawdwyr, megis yn cael eu danfon ganddo ef er dial ar ddrwg-weithredwyr, a mawl gweithredwyr yr hyn sy dda;
15canys fel hyn y mae ewyllys Duw, trwy wneuthur yr hyn sy dda ostegu o honoch anwybodaeth y dynion ynfyd;
16megis yn rhyddion, ond nid a’r rhyddid genych yn orchudd drygioni, eithr megis caethweision Duw.
17Pob dyn anrhydeddwch; y brawdoliaeth cerwch; Duw ofnwch; y brenhin anrhydeddwch.
18Y gweinidogion, byddwch yn ymddarostwng, gyda phob ofn, i’ch meistriaid; nid unig i’r rhai da ac addfwyn, eithr hefyd i’r rhai gwyrog;
19canys hyn sydd ddiolch-wiw, os o herwydd cydwybod tuag at Dduw y goddef neb gystuddiau, gan ddioddef ar gam;
20canys pa glod, os pan yn pechu ac yn cael eich cernodio, y dygwch ef yn amyneddgar? Eithr os pan yn gwneuthur yr hyn sydd dda, ac yn dioddef, y dygwch ef yn amyneddgar, hyn sydd ddiolch-wiw gyda Duw:
21canys i hyn y’ch galwyd; canys Crist hefyd a ddioddefodd drosoch, gan adael i chwi esampl fel y canlynech yn Ei olion;
22yr Hwn, pechod ni wnaeth, ac ni chafwyd chwaith dwyll yn Ei enau;
23ond pan yn cael Ei ddifenwi, ni ddifenwai drachefn; pan yn dioddef, ni fygythiai; ond traddodai Ei hun i’r Hwn sy’n barnu yn gyfiawn:
24yr Hwn ein pechodau Efe Ei hun a ddug yn Ei gorph ar y pren; fel, ar ol i bechodau y buom feirw, i gyfiawnder y byddom byw; trwy gleisiau yr Hwn y’ch iachawyd:
25canys oeddych, fel defaid, yn myned ar gyfeiliorn; eithr dychwelwyd chwi yn awr at Fugail ac Esgob eich eneidiau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.