1Gwae’r rhai a ddisgynant i’r Aipht am gynhorthwy,
Ac mewn meirch a ymddiriedant,
Ac a hyderant ar gerbydau am (eu bod) yn aml,
Ac ar wŷr meirch am (eu bod) yn nerthol odiaeth,
Ond nid edrychant at Sanct Israel,
Ac Iehofah ni cheisiant.
2Ond, Ië, Efe (sydd) ddoeth, ac a ddwg ddrwg,
A’i air ni ddychwel Efe,
Eithr cyfyd yn erbyn tŷ y rhai drygionus,
Ac yn erbyn cynhorthwy gwneuthurwŷr anwiredd.
3Canys yr Aiphtiaid, dyn (ydynt) ac nid Duw;
A’u meirch, cnawd (ydynt) ac nid yspryd;
Ac Iehofah a estyn Ei law,
A thramgwyddir y cynnorthwywr, a syrth y cynnorthwyedig,
Ac ynghŷd hwy oll a ddiddymir.
4Canys fel hyn y dywedodd Iehofah wrthyf,
Megis y rhua ’r llew,
Ië ’r llew ieuangc ar ei ’sglyfaeth,
Yr hwn (er) y gelwir yn ei erbyn liaws o fugeiliaid,
Rhag eu llef hwynt ni ddychryn efe,
Ac wrth eu twrf hwynt nid ymostwng efe;
Felly y disgyn Iehofah y lluoedd i ryfela
Dros fynydd Tsïon a thros Ei fryn Ef.
5Megis adar ar yr aden
Felly yr ymddiffyn Iehofah y lluoedd Ierwshalem,
Gan ymddiffyn a gwared, gan lamu ymlaen ac achub.
6Dychwelwch at yr Hwn y llwyr-giliasoch oddi wrtho,
O feibion Israel.
7Dïau yn y dydd hwnnw hwy a ddirmygant
Bob un eulunod ei arian, ac eulunod ei aur,
Y rhai a wnaeth 『2eich dwylaw』 『1i chwi』 am bechod:
8A syrth yr Assyriad trwy gleddyf nid eiddo dyn,
A chleddyf nid eiddo un daearol a’i bwytty ef,
Ac efe a ffŷ rhag y cleddyf,
A’i wŷr dewisawl llwfredig a fydd.
9A’i graig, gan ofn, efe a aiff heibio,
A dychrynir 『2ei dywysogion』 『1oddi wrth y llumman,』
Medd Iehofah yr Hwn y mae tân ganddo yn Tsïon,
A ffwrn ganddo yn Ierwshalem.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.