Ephesiaid 4 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Deisyf arnoch, gan hyny, yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio o honoch yn deilwng o’r alwedigaeth â’r hon y’ch galwyd,

2gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, gyda hir-ymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad,

3gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Yspryd yng nghwlwm heddwch.

4Un corph sydd, ac un Yspryd, fel y’ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth;

5un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad pawb,

6yr Hwn sydd dros bawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb.

7Ond i bob un o honom y rhoddwyd y gras yn ol mesur dawn Crist.

8O herwydd paham y dywaid,

“Pan esgynodd i’r uchelder, caethiwodd gaethiwed,

A rhoddodd roddion i ddynion.”

9(Ond hyn, “Esgynodd,” pa beth yw oddieithr y bu iddo ddisgyn i barthau isaf y ddaear?

10Yr Hwn a ddisgynodd, Efe yw’r Hwn a esgynodd goruwch yr holl nefoedd fel y llenwai bob peth:)

11ac Efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn brophwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn ddysgawdwyr,

12er perffeithiad y saint, i waith y weinidogaeth,

13i adeiladaeth corph Crist, hyd oni chyrhaeddwn oll i undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw, i ŵr perffaith,

14i fesur maint cyflawnder Crist; fel na byddom mwyach yn blant, yn bwhwmman a’n cylch-ddwyn â phob gwynt dysgeidiaeth, gan hocced dynion, mewn cyfrwysdra, yn ol dyfais cam-arwain;

15ond gan adrodd y gwir mewn cariad, y cynnyddom ymhob peth Iddo Ef, yr Hwn yw’r pen, sef Crist,

16o’r Hwn, yr holl gorph yn cael ei gyfaddasu a’i gydgyssylltu trwy’r hyn y mae pob cymmal yn ei roddi, yn ol gweithrediad pob rhan mewn mesur, sy’n gwneuthur cynnydd y corph i’w adeiladaeth ei hun mewn cariad.

17Hyn, gan hyny, yr wyf yn ei ddywedyd ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae’r cenhedloedd hefyd yn rhodio yn oferedd eu meddwl,

18wedi eu tywyllu yn eu deall, wedi eu dieithrio oddiwrth fuchedd Duw o herwydd yr anwybodaeth sydd ynddynt,

19o herwydd calediad eu calon; y rhai, wedi myned yn ddideimlad, a draddodasant eu hunain i drythyllwch i wneuthur pob aflendid gydag awydd.

20Ond chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist, os, yn wir, am dano Ef y clywsoch,

21ac Ynddo Ef y’ch dysgwyd fel y mae’r gwirionedd yn yr Iesu;

22ar ddodi o honoch oddi am danoch, yn ol eich ymarweddiad gynt, yr hen ddyn y sy’n myned yn llygredig yn ol chwantau twyll,

23a’ch adnewyddu yn yspryd eich meddwl,

24a rhoddi am danoch y dyn newydd, yr hwn yn ol Duw a grewyd mewn cyfiawnder ac yn sancteiddrwydd y gwirionedd.

25Gan hyny, gan ddodi ymaith gelwydd, lleferwch y gwir bob un â’i gymmydog, canys yr ydym yn aelodau o’n gilydd.

26Digiwch, ac na phechwch; na fydded i’r haul fachludo ar eich ennyniad,

27ac na roddwch le i ddiafol.

28Yr hwn a ladrattai, na ladratted mwyach, ond yn hytrach llafuried gan weithio yr hyn sydd dda, â’i ddwylaw, fel y bo ganddo beth i’w gyfrannu i’r hwn sydd ag angen arno.

29Na fydded i neb rhyw ymadrodd llygredig ddyfod allan o’ch genau, eithr yr hwn a fo dda i adeiladaeth fel y mae eisiau, fel y rhoddo ras i’r gwrandawyr.

30Ac na thristewch Yspryd sanctaidd Duw, yn yr Hwn y’ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth.

31Pob chwerwder, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, rhodder ymaith oddiwrthych, ynghyda phob drygioni.

32A byddwch gymmwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddeu i’ch gilydd, fel y bu i Dduw hefyd, yng Nghrist, faddeu i chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help