1Yna y chwannegodd Iöb gymmeryd ei ddammeg, a dywedodd,
2Fel mai byw Duw, yr Hwn a ddug ymaith fy iawn achos,
A’r Hollalluog, yr Hwn a chwerwodd fy enaid,
3 — Canys y mae fy holl anadl etto ynof fi,
Ac yspryd Duw yn fy ffroenau, —
4Ni lefarodd fy ngwefusau anwiredd,
A’m tafod ni thraethodd dwyll:
5Pell fydded oddi wrthyf i mi eich cyfiawnhâu chwi nes y trengwyf,
Ni oddefaf ddwyn ymaith fy niniweidrwydd oddi wrthyf;
6Wrth fy nghyfiawnder y glynaf ac ni ollyngaf ef,
Ni waradwydda ’m calon (un) o’m dyddiau:
7Bydded fy ngelyn fel yr annuwiol,
A’r hwn sy’n codi yn fy erbyn, fel y drygionus.
8Pa beth ynte (yw) gobaith y drygionus, pan dorro ymaith,
Pan dynno Duw allan, ei enaid ef?
9Ei lefain allan, a wrendy Duw (hynny,)
Pan ddelo arno gyfyngder?
10Ai yn yr Hollalluog yr ymlawenhâ efe?
A eilw efe ar Dduw bob amser?
11Myfi a’ch dysgaf chwi am law Duw,
Yr hyn sydd gyda ’r Hollalluog ni chelaf.
12Wele chwychwi, bob un o honoch, a’i gwelsoch;
A pha ham (y mae) hyn — yr oferwch ag oferedd?
13 ddiangant a gleddir ym marwolaeth,
A’u gwragedd gweddwon ni wylant;
16Er iddo bentyrru arian fel llwch,
Ac fel clai ddarparu dillad,
17Darparu a wna efe — ond y cyfiawn a’ (i) gwisg,
A’r arian, y diniweid a’i cyfranna;
18Megis gwyfyn yr adeiladodd efe ei dŷ,
Fel bwth, yr hwn a wna gwyliedydd:
19 Cyfoethog yr aiff efe i gysgu, ond ni chwannega (wneuthur hynny,)
Ei lygaid ef a egyr (dyn), ond nid (yw) mwyach;
20Ei oddiweddu y mae dychryniadau fel dyfroedd,
Lliw nos y lladratta corwŷnt ef,
21Ei godi y mae ’r dwyreinwỳnt fel y bo iddo fyned,
Ac y tymhestla ef allan oï le,
22A saetha arno ac nid arbed,
A rhag ei law ef yntau gan ffoi a ffŷ;
23Curo dwylaw arno a wna (dyn),
A sïaw arno allan o’i le.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.