1Gweddi. Eiddo Moshe, gŵr Duw.
O Arglwydd, preswylfa — Tydi a’i buost i ni ynghenhedlaeth a chenhedlaeth,
2Cyn i’r mynyddoedd gael eu geni,
A(chyn) hwynt,—hûn ydynt,
Y bore (y maent) fel irwellt sy’n ail-lasu,
6—Y bore y blodeua ac yr ail-lasa,
Prydnhawn y gwywa ac y sycha,—
7Canys difethir ni yn Dy lid,
Ac yn Dy angerdd y derfydd yn ddisyfyd am danom;
8Gosodaist ein hanwireddau ger ein bron,
Ein dirgel (bethau) yngoleuni Dy wyneb,
9Canys ein holl ddyddiau sy’n cilio yn Dy soriant,
Diweddwn ein blynyddoedd fel myfyrdod:
10Dyddiau ein blynyddoedd,—ynddynt (y mae) deng mlwydd a thrugain,
Ac, os mewn cryfder (y bôm), bedwar ugain mlynedd,
11Ond eu balchder,—poen a gwagedd (yw),
Canys heibio yr â ar frys, ac ehedwn ymaith!
12Pwy a edwyn nerth Dy lid?
Canys fel Dy arswydolrwydd y mae Dy soriant!
13I gyfrif ein dyddiau, gan hyny, dysg Di ni,
Fel y dygom (Attat) galon ddoeth!
14Dychwel, O Iehofah! Hyd ba hyd?—
A thosturia wrth Dy weision!
15Diwalla ni ar frys â’th drugaredd,
Fel y llawen-ganom, ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau!
16Llawenhâ ni yn ol y dyddiau y cystuddiaist ni,
(Yn ol) y blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd!
17Dangoser tuag at Dy weision Dy weithred,
A’th odidowgrwydd i’w meibion!
18A bydded rhadlondeb Iehofah ein Duw arnom ni!
A gwaith ein dwylaw cynnal i ni,
A gwaith ein dwylaw cynnal!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.