S. Matthew 27 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A’r bore wedi dyfod, cyngor a gymmerodd yr holl archoffeiriaid ac henuriaid y bobl yn erbyn yr Iesu, i’w roddi Ef i farwolaeth;

2ac wedi Ei rwymo Ef, dygasant Ef ymaith, a thraddodasant Ef i Pontius Pilat y rhaglaw.

3Yna wedi gweled o Iwdas yr hwn a’i traddododd, y condemniwyd Ef gan edifarhau y dug drachefn y deg ar hugain arian at yr archoffeiriaid â’r henuriaid,

4gan ddywedyd, Pechais gan draddodi gwaed diniweid. A hwy a ddywedasant, Pa beth yw hyny i ni?

5Tydi a edrych. Ac wedi taflu yr arian i’r cyssegr, ciliodd ymaith; ac wedi myned ymaith, ymgrogodd.

6A’r archoffeiriaid, wedi cymmeryd yr arian, a ddywedasant, nid yw gyfreithlon eu bwrw i’r drysorfa, gan mai gwerth gwaed yw.

7A chyngor a gymmerasant, a phrynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa i ddieithriaid;

8o herwydd paham y galwyd y maes hwnw “Maes gwaed,” hyd heddyw.

9Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Ieremiah y prophwyd,

“A chymmerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig,

Yr hwn a brisiasant oddi wrth feibion Israel;

10A rhoisant hwynt am faes y crochenydd,

Yn ol yr hyn a ordeiniodd yr Arglwydd i mi.”

11A’r Iesu a safodd ger bron y rhaglaw, a gofynodd y rhaglaw Iddo, gan ddywedyd, Ai Tydi wyt brenhin yr Iuddewon? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedi.

12Ac wrth Ei gyhuddo gan yr Archoffeiriaid a’r henuriaid, ddim atteb o gwbl ni roes Efe.

13Yna y dywedodd Pilat Wrtho, Oni chlywi pa faint o bethau a dystiolaethant yn Dy erbyn?

14Ac nid attebodd iddo ef, nid i gymmaint ag un gair, fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn ddirfawr.

15Ac ar yr wyl honno yr arferai y rhaglaw ollwng yn rhydd i’r dyrfa un carcharor, yr hwn a ewyllysient.

16Ac yr oedd ganddynt yr amser hwn garcharor hynod a elwid Barabba.

17Gan hyny, wedi ymgasglu o honynt ynghyd, gofynodd Pilat iddynt, Pwy a ewyllysiwch ei ollwng yn rhydd genyf i chwi?

18Barabba; neu yr Iesu, yr hwn a elwir Crist? Canys gwyddai mai o genfigen y traddodasant Ef.

19Ac efe yn eistedd ar y frawd-faingc, danfonodd ei wraig atto, gan ddywedyd, Na fydded i ti ddim a wnelych â’r cyfiawn hwnw, canys llawer a ddioddefais heddyw mewn breuddwyd o’i achos Ef.

20A’r archoffeiriaid a’r henuriaid a berswadiasant y torfeydd i ofyn Barabba, ac i ddifetha’r Iesu.

21A chan atteb, y rhaglaw a ddywedodd wrthynt, Pa un o’r ddau a ewyllysiwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? A hwy a ddywedasant, Barabba.

22Dywedodd Pilat wrthynt, Pa beth, gan hyny, a wnaf i’r Iesu, yr Hwn a elwir Crist?

23Dywedasant oll, Croes-hoelier Ef. Ac efe a ddywedodd, Canys pa ddrwg a wnaeth Efe? A hwy a ddirfawr-waeddasant, gan ddywedyd, Croes-hoelier Ef.

24A chan weled o Pilat nad oedd efe yn tycio ddim, eithr i radd mwy fod y cynnwrf yn myned, gan gymmeryd dwfr y golchodd ei ddwylaw ger bron y dyrfa, gan ddywedyd, dieuog wyf oddiwrth waed y Cyfiawn hwn; bydded i chwi edrych.

25A chan atteb, yr holl bobl a ddywedodd, Ei waed, arnom ni ac ar ein plant y bo.

26Yna y gollyngodd efe yn rhydd iddynt Barabba; ac yr Iesu, ar ol Ei fflangellu Ef, a draddododd efe i’w groes-hoelio.

27Yna milwyr y rhaglaw, wedi cymmeryd yr Iesu i’r palas, a gynnullasant Atto yr holl fyddin;

28ac wedi Ei ddiosg, rhoisant am Dano fantell o ysgarlad:

29ac wedi plethu coron o ddrain, gosodasant hi ar Ei ben, a chorsen yn Ei law ddehau; a chan benlinio o’i flaen Ef, gwatwarasant Ef, gan ddywedyd, Henffych well, Brenhin yr Iuddewon!

30Ac wedi poeri Arno, cymmerasant y gorsen ac a’i tarawsant ar Ei ben.

31A phan gwatwarasant Ef, diosgasant Ef o’r fantell, a rhoisant am Dano Ei ddillad Ei hun, a dygasant Ef ymaith i’w groes-hoelio Ef.

32Ac wrth ddyfod allan cawsant ddyn o Cyrene, a’i enw Shimon;

33hwn a gymmellasant i ddwyn Ei groes Ef. Ac wedi dyfod i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir Lle’r benglog,

34rhoisant Iddo i’w yfed win yn gymmysgedig â bustl;

35ac wedi ei brofi o Hono nid ewyllysiai yfed.

36Ac wedi Ei groes-hoelio Ef, rhannasant Ei ddillad, gan fwrw coelbren; a chan eistedd, gwyliasant Ef yno.

37A gosodasant uwch Ei ben Ei gyhuddiad yn ysgrifenedig,

Hwn yw Iesu Brenhin yr Iuddewon.

38Yna y croes-hoeliwyd gydag Ef ddau leidr, un ar y llaw ddehau ac un ar yr aswy.

39A’r rhai yn myned heibio a’i cablasant Ef, gan siglo eu pennau, a dywedyd,

40Yr hwn wyt yn dinystrio’r deml, ac mewn tridiau y’i hadeiledi, gwared Dy Hun: os Mab Duw wyt, tyr’d i lawr oddi ar y groes.

41Mewn cyffelyb fodd yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar ynghyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, a

42ddywedasant, Eraill a waredodd Efe, Ef Ei hun ni all Ei waredu. Brenhin Israel yw! Deued i lawr yn awr oddi ar y groes, a chredwn Ynddo.

43Ymddiriedodd yn Nuw. Gwareded Efe Ef yr awr hon, os ewyllysia Ef; canys dywedodd Mab Duw wyf.

44Ac yr un peth y lladron hefyd a groes-hoeliwyd gydag Ef, a edliwiasant Iddo.

45Ac o’r chweched awr tywyllwch fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr:

46ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef fawr, gan ddywedyd,

Eli, Eli, lama shabacthani?

47hyny yw, Fy Nuw, Fy Nuw, paham y’m gadewaist? A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Ar Elias y geilw hwn.

48Ac yn uniawn gan redeg o un o honynt, ac wedi cymmeryd ysbwng, a’i llenwi o finegr a’i rhoddi am gorsen, diododd Ef:

49ond y lleill a ddywedasant, Gad Iddo; edrychwn a ddaw Elias i’w waredu Ef.

50A’r Iesu, wedi gwaeddi etto â llef fawr, a ymadawodd â’r yspryd.

51Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fynu hyd i wared; a’r ddaear a ysgydwyd; a’r creigiau a rwygwyd;

52a’r beddau a agorwyd; a llawer o gyrph y saint oedd yn huno,

53a gyfodasant, ac wedi dyfod allan o’r beddau ar ol Ei gyfodiad Ef, aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd, ac ymddangosasant i lawer.

54A’r canwriad, a’r rhai ynghydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaear-gryn a’r pethau a ddigwyddasant, a ofnasant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw oedd Hwn.

55Ac yr oedd yno wragedd lawer yn edrych, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo;

56ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago, ac Iose, a mam meibion Zebedëus.

57A’r hwyr wedi dyfod, daeth gŵr goludog o Arimathea, a’i enw Ioseph, yr hwn oedd yntau hefyd yn ddisgybl i’r Iesu.

58Hwn, wedi myned at Pilat, a ofynodd gorph yr Iesu.

59Yna Pilat a orchymynodd ei roddi. Ac wedi cymmeryd y corph,

60Ioseph a’i hamdôdd â lliain glân, a gosododd Ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorrasai efe yn y graig; ac wedi treiglo maen mawr at ddrws y bedd, aeth ymaith.

61Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a’r Mair arall, yn eu heistedd gyferbyn â’r bedd.

62A thrannoeth, yr hwn sydd ar ol y Darpariad, yr ymgynhullodd yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid at Pilat,

63gan ddywedyd, Arglwydd, cofiwn y bu i’r arweinydd ar gyfeiliorn hwnw ddywedyd, tra etto yn fyw, Wedi tridiau cyfodi yr wyf.

64Gorchymyn, gan hyny, wneud y bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag ysgatfydd, wedi dyfod o’i ddisgyblion, iddynt Ei ladratta Ef, a dywedyd wrth y bobl, Cyfododd o feirw; a bydd y cyfeiliornad diweddaf yn waeth na’r cyntaf.

65Dywedodd Pilat wrthynt, Y mae genych wyliadwriaeth: ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medrwch.

66A hwy, wedi myned, a wnaethant y bedd yn ddiogel, gan selio’r maen, ynghyda’r wyliadwriaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help