1Cân y graddau.
Mawr y’m gorthrymmasant o’m hieuengctid,
—Dyweded, attolwg, Israel;
2Mawr y’m gorthrymmasant o’m hieuengctid,
Etto ni’m gorfuant;
3Ar fy nghefn yr arddodd arddwyr,
Hirion y gwnaethant eu cwysau!
4Iehofah, cyfiawn (yw),
Torrodd raff yr annuwiolion!
5Cywilyddier, ac ymchweler yn (eu) hol
Holl gasawyr Tsïon!
6Aent hwy fel glaswellt y töau,
Yr hwn, cyn (i neb ei) dynu ymaith, a wywa;
7A’r hwn ni leinw y pladurwr ei law,
Neu rwymwr yr ysgubau ei fynwes;
8Ac ni ddywaid y rhai a ant heibio,
“Bendith Iehofah arnoch,
Bendithiwn chwi yn enw Iehofah!”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.