Galatiaid 4 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ond dywedyd yr wyf, am gymmaint o amser ag y mae’r etifedd tan oed, nid oes gwahaniaeth rhyngddo a gwas, ac yntau yn Arglwydd ar y cwbl;

2eithr tan warcheidwaid a disdeiniaid y mae hyd yr amser a osodwyd gan y tad.

3Felly ninnau hefyd, pan oeddym tan oed, tan wyddorion y byd yr oeddym wedi ein caethiwo;

4ond pan ddaeth cyflawnder yr amser danfonodd Duw Ei Fab allan, wedi Ei eni o wraig,

5wedi Ei eni tan y Gyfraith, fel y rhai tan y Gyfraith y prynai, fel y byddai’r mabwysiad i’w gael genym.

6Ac o herwydd eich bod yn feibion, danfonodd Duw Yspryd Ei Fab i’n calonnau, yn llefain, Abba Dad.

7Felly nid wyt mwyach yn gaethwas, eithr yn fab; ac os mab, yn etifedd hefyd trwy Dduw.

8Eithr yr amser hwnw, heb adnabod o honoch Dduw, caethion oeddych i’r rhai wrth naturiaeth nad ydynt dduwiau:

9ond yn awr gan adnabod Duw, ac yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd y trowch yn ol at yr egwyddorion gwan a thlodion, i’r rhai yr ewyllysiwch fod etto o newydd mewn caethiwed?

10Diwrnodiau a gedwch, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd.

11Ofn sydd arnaf am danoch, rhag mewn modd yn y byd yn ofer y llafuriais arnoch.

12Byddwch fel yr wyf fi, canys yr wyf fi fel chwychwi, frodyr, attolygaf arnoch. Mewn dim ni wnaethoch gam i mi;

13ond gwyddoch mai o achos gwaelder cnawdol yr efengylais i chwi y waith gyntaf;

14ac eich profedigaeth yn fy nghnawd ni ddirmygasoch ac ni wrthodasoch; eithr fel angel Duw y’m derbyniasoch, fel Crist Iesu.

15Pa le, gan hyny, y mae eich ymfendigiad? canys tystiaf i chwi, pe buasai bosibl, eich llygaid a dynnasech allan ac a’u rhoisech i mi.

16Felly, ai yn elyn i chwi yr aethum wrth ddweud y gwir wrthych?

17Selog ydynt tuag attoch, nid yn dda, eithr eich cau chwi allan a ewyllysiant, fel y ceisioch hwynt-hwy.

18Ond da yw bod yn selog, mewn peth da, bob amser, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi.

19Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn hyd oni ffurfier Crist ynoch,

20ewyllysiwn fod yn bresennol gyda chwi yn awr, a newidio fy llais, canys dyrysir fi ynoch.

21Dywedwch wrthyf, y rhai sy’n ewyllysio bod dan y Gyfraith, oni chlywch y Gyfraith?

22Canys ysgrifenwyd, Abraham oedd a dau fab ganddo, un o’r wasanaeth-ferch, ac un o’r wraig rydd.

23Eithr yr hwn o’r wasanaeth-ferch, yn ol y cnawd y ganed; a’r hwn o’r wraig rydd, trwy addewid.

24A’r pethau hyn sydd ag alegori ynddynt, canys y gwragedd hyn ydynt ddau gyfammod, sef, un o fynydd Sinai, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Hagar.

25A’r Hagar hon, mynydd Sinai yw, yn Arabia, a chyfatteb y mae i’r Ierwshalem sydd yn awr, canys mewn caethiwed y mae hi ynghyda’i phlant.

26Ond yr Ierwshalem sydd uchod, rhydd yw, yr hon yw ein mam; canys ysgrifenwyd,

27“Llawenycha, anffrwythlawn, yr hon nid wyt yn eppilio;

Tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor;

Canys mwy yw plant yr unig na’r hon sydd a chanddi ŵr.”

28Ac nyni, frodyr, fel Itsaac, plant addewid ydym; eithr fel yr amser hwnw,

29yr hwn a anwyd yn ol y cnawd a erlidiai yr hwn a anwyd yn ol yr Yspryd, felly hefyd yn awr.

30Eithr pa beth a ddywaid yr Ysgrythyr? “Bwrw allan y wasanaeth-ferch a’i mab, canys mewn modd yn y byd nid etifedda mab y wasanaeth-ferch ynghyda mab y wraig rydd.”

31O herwydd paham, frodyr, nid ydym blant y wasanaeth-ferch, eithr plant y wraig rydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help