1I’r blaengeiniad. I Iedwthwn. I Asaph. Psalm
2Fy llais (fydd) ar Dduw, a gwaeddaf,
Fy llais (fydd) ar Dduw, a gwrendy Efe arnaf.
3Yn nydd fy nghyfyngder, yr Arglwydd a geisiais,
Fy nwylaw liw nos a ledid, ac heb beidio,
Gwrthod ei ddiddanu a wnaeth fy enaid.
4—“Cofiaf am Dduw,” — a chythryblir fi,
“Myfyriaf,” — a phalla fy yspryd. Selah.
5Cymmeraist afael ar amrantau fy llygaid,
Cyffröid fi ac ni leferais,
6Meddyliais am y dyddiau gynt,
Blynyddoedd yr hen oesoedd, (gan ddywedyd)
7“Cofiaf fy nghanu’r tannau yn y nos,
A’m calon y myfyriaf;”
Ac ymofynodd fy yspryd,
8“Ai yn dragywydd y bwrw yr Arglwydd ymaith,
Ac oni chwannega Efe i ymfoddhâu mwy?
9Ai darfod am byth a wnaeth Ei drugaredd?
A beidiodd Ei addewid Ef yn oes oesoedd?
10Ai anghofio bod yn radlawn a wnaeth Duw?
A gauodd Efe, mewn llid, Ei dosturiaethau?” Selah.
11Yna y dywedais, “Fy nghlwyfiant,—efe
(Sydd fel) blynyddoedd deheulaw’r Goruchaf;
12Cofiaf weithredoedd Iah,
Ië, cofiaf Dy wyrthiau gynt,
13A myfyriaf ar Dy holl waith,
Ac am Dy weithredoedd yr ystyriaf.”
14O Dduw, mewn sancteiddrwydd (y mae) Dy ffordd;
—Pwy (sy) dduw mawr fel Duw?
15Tydi (yw)’r Duw sy’n gwneuthur rhyfeddodau,
Peraist wybod, ymysg y bobloedd, Dy nerth,
16Rhyddhêaist â’(th) fraich Dy bobl,
Meibion Iacob ac Ioseph,—Selah:
17Dy weled a fu i’r dyfroedd, O Dduw,
Dy weled a fu i’r dyfroedd,—gofidiasant,
—Ië, cynhyrfwyd y dyfnderau;
18Tywallt dyfroedd a wnaeth y cymmylau,
Llais a roddodd yr wybrenau,
—Ië, Dy saethau a ymrodiasant;
19Llais Dy daran (oedd) o amgylch,
Goleuodd y mellt y byd,
Cynhyrfwyd a chrynodd y ddaear;
20Yn y môr (yr oedd) Dy ffordd,
A’th lwybr yn y dyfroedd mawrion,
A’th olion nid adwaenid;
21Tywysaist, fel defaid, Dy bobl,
Trwy law Mosheh ac Aharon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.