Psalmau 18 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XVIII.hwynt,

A mellt lawer, ac a ’u tarfodd hwynt;

16A gwelwyd gwaelodion y dyfroedd,

A dinoethwyd seiliau ’r byd,

Rhag Dy geryddiad, O Iehofah,

Rhag chwỳthad anadl Dy ffroenau:

17Estynodd Efe Ei law oddi uchod, cymmerodd fi,

Tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer,

18Achubodd fi oddi wrth fy ngelyn cadarn,

Oddi wrth fy nghaseion, canys cryfion oeddynt rhagor myfi;

19Rhuthrasant arnaf yn nydd fy nhrychineb,

Ond bu Iehofah yn gynhaliad i mi,

20Ac Efe a ’m dug allan i ehangder,

Achubodd ti, canys ymhoffodd ynof.

21Ad-roddi i mi y mae Iehofah yn ol fy niniweidrwydd,

Yn ol glendid fy nwylaw y tâl Efe i mi,

22Canys cedwais ffyrdd Iehofah,

Ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw,

23Canys Ei holl farnedigaethau (oedd) ger fy mron,

A’i ddeddfau Ef ni ddychwelais oddi wrthyf,

24A bûm gywir tuag atto Ef,

Ac ymgedwais rhag (gwneuthur) o honof bechod.

25Ac felly y ’m gwobrwyodd Iehofah yn ol fy niniweidrwydd,

Yn ol glendid fy nwylaw o flaen Ei lygaid Ef;

26Gyda ’r cariadlawn yr wyt gariadlawn,

A chyda ’r gwr diniweid yr wyt ddiniweid,

27Gyda ’r cywir yr wyt gywir,

A chyda ’r traws yr wyt drofäus;

28Canys Tydi—y bobl gystuddiedig, yr wyt yn eu gwaredu,

Ond llygaid beilchion, yr wyt yn eu darostwng;

29Canys Tydi a oleuaist fy llusern,

— Iehofah fy Nuw a lewyrchodd fy nhywyllwch,

30Oblegid ynot Ti y chwilfriwiais fyddin,

Ac yn fy Nuw y llemmais dros fur;

31Y Duw a’r (sydd) gywir Ei ffordd,

—Gair Iehofah (sydd) buredig;

32Tarian (yw) Efe i bawb a ymddiriedont ynddo Ef,

—Canys pwy (sydd) Dduw heb law Iehofah,

—A phwy (sydd) graig ond ein Duw ni?—

33Y Duw a’m gwregysodd â nerth,

Ac a roddes fy ffordd yn ddïanaf,

34Ac a gystadlodd fy nhraed â ’r ewigod,

Ac ar fy uchelfëydd a’m gosododd;

35Yr Hwn a ddysgodd fy nwylaw i ryfel,

Fel y tynnai fy mreichiau fwa pres;

36A rhoddaist i mi darian Dy waredigaeth,

A ’th ddeheulaw a’m cynhaliodd,

A ’th fwynder a’m mawrhâodd;

37Ehengaist fy nghamrau tanaf,

Ac ni wegiodd fy fferau;

38Erlidiais fy ngelynion ac a’u goddiweddais,

Ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt,

39Tarewais hwynt fel na allent godi,

Syrthiasant dan fy nhraed,

40O herwydd fy ngwregysu Gennyt â nerth,

(A)chrymmu o Honot fy ngwrthgodwyr danaf;

41Fy ngelynion—rhoddaist i mi eu gwar,

Fy nghaseion,—mi a’u difethais,

42Gwaeddi a wnaethant—ond heb waredydd iddynt,—

(Sef) ar Iehofah, ond nid attebodd Efe hwynt;

43Fel y maluriais hwynt fel y llwch o flaen y gwỳnt,

(Ac) megis llaid yr heolydd y tywelltais hwynt allan;

44Gwaredaist fi rhag cynhennau ’r bobl,

Gosodaist fi yn ben cenhedloedd,

Pobl nad adwaenwn sy’n fy ngwasanaethu,

45Ar glyw ’r glust yr ufuddhasant i mi,

Meibion y dïeithr sy’n gwenieithio wrthyf,

46Meibion y dïeithr a wywasant,

Mewn dychryn y daethant allan o’u caerfëydd.

47 Byw (fo) Iehofah! a bendigedig (fo) fy Nghraig!

A dyrchafer Duw fy iachawdwriaeth!

48Y Duw, yr Hwn a roddodd ymddial i mi,

Ac a ddarostyngodd bobloedd danaf;

49Yr Hwn a’m gwaredodd rhag fy ngelynion,—

Ië, rhagor fy ngwrthgodwyr y dyrchefaist fi,

Rhag y gwr treisig y’m hachubaist;

50Am hynny moliannaf Di ymhlith y cenhedloedd, O Iehofah,

Ac i’th enw y canaf,

51Yr Hwn sy’n peri mawr ymwared i’w frenhin,

Ac yn gwneuthur trugaredd i’w enneiniog,

I Ddafydd, ac i’w hâd yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help