Eshaiah 16 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XVI.

1 Danfonaf fab llywodraethwr y tir

O Selah yr anialwch i fynydd merch Tsïon;

2A bydd, fel aderyn gwibiog『 2wedi ei fwrw allan』『1o’r nyth,』

Felly y bydd merched Moab wrth rydau Arnon.

3(Tsïon)dwg gyngor, gwna farn,

Gwna fel nos dy gysgod, ynghanol hanner dydd,

Cuddia ’r rhai gwasgaredig, y crwydriad na ddatguddia.

4Triged gyda thi wasgaredigion Moab;

Bydd di loches iddynt rhag wyneb y dinystrydd,

Canys diweddwyd y gorthrymmydd, peidiodd yr anrheithiwr,

A darfu dy fathrwŷr o’r tir.

5A sefydlir mewn trugaredd orseddfaingc,

Ac fe eistedd arni mewn gwirionedd, o fewn pabell Dafydd,

Un yn barnu, ac yn ceisio barn, ac yn prysuro cyfiawnder.

6Clywsom am falchder Moab, balch iawn (yw),

Am ei draha, a’i falchder a’i ddigllonedd: nid da ei gelwyddau.

7Am hynny yr uda Moab; am Moab

Pob un a uda;

Am bobl Cirhares y griddfennwch.

8Canys cywilyddiwyd maesydd Heshbon,

Llesgâodd gwinwŷdden Sibmah;

Arglwyddi ’r cenhedloedd, gorchfygodd ei pher-amglymmau hi hwynt,

Hyd Iazer y cyrhaeddasant, crwydrasant (ar hŷd) yr anialwch;

Ei changhennau a ymestynasant, aethant dros y môr.

9Am hynny y galaraf â galar Iazer dros winwŷdden Sibmah;

Dyfrhâf di â’m dagrau, Heshbon ac Elealah;

Canys ar dy ffrwythydd hâf, ac ar dy gynhauaf gwin, yr anrheithiwr a ruthrodd.

10Dygpwyd ymaith lawenydd a gorfoledd o’r maes ffrwythlawn,

Ac yn y gwinllanoedd ni chanant, ni floeddiant;

Gwin yn y gwrŷfoedd ni sathr y sathrydd,

Y floedd a beidiodd.

11Am hynny fy ymysgaroedd am Moab fel telyn a leisiant,

A’m perfedd am Cirhares.

12A bydd, pan weler

Flino o Moab ar yr uchelfan,

Y daw efe i’w gyssegr

I weddio, ond ni thyccia iddo.

13Dyma’r gair a lefarodd Iehofah am Moab cyn hyn;

14ond yn awr y llefarodd Iehofah gan ddywedyd,

O fewn tair blynedd, fel blynyddoedd gwas cyflog,

Dibrisir gogoniant Moab yn ei holl dyrfa fawr,

A’r gweddill (fydd) ychydig, bach, dirym.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help