1Ond am yr amserau a’r prydiau, frodyr, nid oes arnoch raid ysgrifenu attoch chwi,
2canys chwi eich hunain a wyddoch yn gywir, am ddydd yr Arglwydd, fel lleidr yn y nos,
3mai felly y mae ar ddyfod; pan ddywedont, Heddwch a diogelwch sydd, yna yn ddisymmwth y mae arnynt ddinystr, fel gwewyr esgor ar yr hon sydd feichiog, ac ni ddiengant ddim.
4Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y bo i’r dydd eich goddiweddu chwi fel lleidr,
5canys yr oll o honoch chwi, meibion y goleuni ydych, a meibion y dydd; nid ydym eiddo’r nos na’r tywyllwch;
6gan hyny, ynte, na chysgwn fel y lleill, eithr gwyliwn a byddwn sobr;
7canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant; a’r rhai sy’n meddwi, y nos y meddwant; ond nyni,
8a ni yn eiddo’r dydd, byddwn sobr, wedi rhoddi am danom ddwyfronneg ffydd a chariad; ac megis helm, obaith iachawdwriaeth;
9canys ni osododd Duw nyni i ddigofaint, eithr i gael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
10yr Hwn a fu farw drosom, fel pa un bynnag ai gwylied ai cysgu y b’om, ynghydag Ef y byddom fyw.
11Gan hyny, cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch y naill y llall, fel hefyd yr ydych yn gwneud.
12Ac attolygwn i chwi, frodyr, adnabod y rhai sy’n llafurio yn eich plith, ac sydd trosoch yn yr Arglwydd, ac yn eich cynghori,
13a gwneuthur cyfrif tra-mawr o honynt mewn cariad o achos eu gwaith. Byddwch heddychlawn â’ch gilydd.
14A galwn arnoch, frodyr, cynghorwch y rhai afreolus; cysurwch y gwan eu calon; cynheliwch y gweiniaid;
15byddwch ymarhous wrth bawb. Edrychwch na bo i neb dalu drwg am ddrwg i neb; eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sy dda tuag at eich gilydd a thuag at bawb.
16-17Peunydd llawenychwch; yn ddibaid gweddïwch;
18ym mhob peth diolchwch, canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag attoch.
19Yr Yspryd na ddiffoddwch;
20-21prophwydoliaethau na ddirmygwch; pob peth profwch;
22yr hyn sy dda deliwch; rhag pob rhith drygioni ymgedwch.
23A Duw’r tangnefedd Ei hun a’ch sancteiddio yn gwbl oll; a’ch yspryd chwi a’ch enaid a’ch corph a gadwer yn gyfan, yn ddifeius yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.
24Ffyddlawn yw’r Hwn sydd yn eich galw, yr Hwn hefyd a’i gwna.
25Brodyr, gweddïwch drosom.
26Annerchwch y brodyr oll â chusan sancteiddiol.
27Tynghedaf chwi yn yr Arglwydd y darllener yr epistol hwn i’r holl frodyr.
28Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.