S. Matthew 7 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Na fernwch, fel na’ch barner; canys â’r farn â’r hon y bernwch, y’ch bernir;

2ac â’r mesur â’r hwn y mesurwch, y mesurir i chwi.

3A phaham y gweli y brycheuyn y sydd yn llygad dy frawd, ond y trawst y sydd yn dy lygad dy hun nad ystyri?

4Neu, pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gâd i mi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad, ac wele y trawst y sydd yn dy lygad di?

5O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur i fwrw allan y brycheuyn o lygad dy frawd.

6Na roddwch y peth sanctaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich gemmau o flaen y moch, rhag ysgatfydd iddynt eu sathru hwynt â’u traed, a throi a’ch rhwygo chwi.

7Gofynwch, a rhoddir i chwi: ceisiwch, a chewch: curwch, ac agorir i chwi;

8canys pob un y sy’n gofyn, sy’n derbyn; a’r neb sy’n ceisio, sy’n cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir.

9Pwy sydd o honoch, ac efe yn ddyn, i’r hwn y gofyn ei fab fara, a rydd garreg iddo;

10neu os pysgodyn a ofyn efe, a rydd sarph iddo?

11Os, gan hyny, chwychwi, a chwi yn ddrwg, a wyddoch pa sut i roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y gwna eich Tad y sydd yn y nefoedd, roddi pethau da i’r rhai sy’n gofyn Iddo?

12Gan hyny, yr holl bethau, cymmaint ag a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau hefyd iddynt hwy; canys hyn yw’r Gyfraith a’r Prophwydi.

13Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng; canys ehang yw’r porth, a llydan y ffordd sy’n arwain i’r distryw, a llawer yw y rhai yn myned i mewn trwyddi;

14canys cul yw’r porth, a chyfyng y ffordd sydd yn arwain i’r bywyd, ac ychydig yw y rhai yn ei chael hi.

15Gwyliwch rhag y gau-brophwydi, y rhai a ddeuant attoch yngwisgoedd defaid, ond oddimewn y maent yn fleiddiaid rheibus: wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.

16Ai oddi ar ddrain y casglant rawnwin; neu oddi ar ysgall, ffigys?

17Felly pob pren da, ffrwythau da a ddwg efe; a’r pren llygredig, ffrwythau drwg a ddwg efe.

18Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren llygredig ddwyn ffrwythau da.

19Pob pren nad yw’n dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac i’r tân y’i teflir;

20ac felly wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.

21Nid pob un y sy’n dywedyd Wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn sy’n gwneuthur ewyllys Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd.

22Llawer a ddywedant Wrthyf yn y dydd hwnw, Arglwydd, Arglwydd, onid yn Dy enw Di y prophwydasom; ac yn Dy enw Di y bwriasom allan gythreuliaid; ac yn Dy enw Di gwyrthiau lawer a wnaethom?

23Ac yna yr addefaf wrthynt, Erioed ni’s adnabum chwi: ewch ymaith Oddiwrthyf y rhai yn gweithredu anghyfraith.

24Pob un, gan hyny, y sy’n clywed y geiriau hyn mau Fi ac yn eu gwneuthur, cyffelyb fydd i ŵr doeth yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig:

25a disgynodd y gwlaw, a daeth yr afonydd, a chwythodd y gwyntoedd, a rhuthrasant ar y tŷ hwnw, ac ni syrthiodd, canys sylfaenesid ar y graig.

26A phob un y sy’n clywed y geiriau hyn mau Fi, ac nad yw yn eu gwneuthur, cyffelyb fydd i ŵr ynfyd, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod;

27a disgynodd y gwlaw, a daeth yr afonydd, a chwythodd y gwyntoedd, a churasant ar y tŷ hwnw, a chwympodd efe, ac yr oedd ei gwymp yn fawr.

28A bu pan orphenodd yr Iesu y geiriau hyn, bu aruthr gan y torfeydd o herwydd Ei ddysgad,

29canys yr oedd Efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel eu hysgrifenyddion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help