Eshaiah 45 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XLV.

1Fel hyn y dywed Iehofah wrth Ei enneiniog,

Wrth Cyrus, yr hwn yr ymaflaf Fi yn ei ddeheulaw

I ddarostwng o’i flaen ef genhedloedd;

A llwynau brenhinoedd a ddadwregysaf;

I agoryd o’i flaen ef ddorau,

A’r pyrth ni cheuir.

2Myfi a âf o’th flaen di,

A ’r mynyddoedd a wastattâf,

Y dorau pres a chwilfriwiaf,

A’r barrau heiyrn a ddrylliaf.

3A rhoddaf i ti drysorau ’r tywyllwch,

A (chyfoeth) dirgeledig y cuddfëydd,

Fel y gwypych mai Myfi (yw) Iehofah,

Yr Hwn a’th alwodd erbyn dy enw, Duw Israel.

4 Er mwyn Iacob Fy ngwas,

Ac Israel Fy etholedig,

Y ’th elwais erbyn dy enw,

Y cyfenwais di er na ’m hadweinit.

5Myfi (yw) Iehofah, ac nid (oes) arall,

Heblaw Fi nid (oes) Duw.

Gwregysaf di, er na ’m hadweinit,

6Er mwyn iddynt wybod o godiad haul,

Ac o’r gorllewin, nad neb ond Myfi,

Mai Myfi (yw) Iehofah, ac nad arall,

7Lluniwr goleuni, a Chreawdydd tywyllwch,

Gwneuthurwr heddwch, a Chreawdydd drygfyd;

Mai Myfi Iehofah (yw) Gwneuthurwr yr holl bethau hyn.

8Defnynwch, nefoedd oddi uchod,

A bydded i ’r cymmylau dywallt i lawr gyfiawnder,

Ymagored y ddaear, a ffrwythed iachawdwriaeth,

A blodeued cyfiawnder ynghŷd:

Myfi Iehofah a’i creais.

9Gwae a ymrysono â ’i Luniwr,

Y briddell â gweithwŷr y pridd.

A ddywed y clai wrth ei luniwr, Beth a wnei?

Neu ’r gwaith, Nid (oes) dwylaw gennyt?

10Gwae a ddywedo wrth ei dad, Beth a genhedli?

Neu wrth y wraig, Ar beth yr esgoraist?

11Fel hyn y dywed Iehofah, Sanct Israel a’i Luniwr,

『2Gofynwch i Mi』 『1y pethau a ddaw』 ar Fy meibion,

Ac am waith Fy nwylaw rhoddwch orchymyn i Mi!

12Myfi a wnaethum y ddaear,

A dyn arni a greais I,

Fy nwylaw a estynasant y nefoedd,

A’u holl luoedd a orchymmynais.

13 Myfi a’i cyfodais ef mewn cyfiawnder,

A’i holl ffyrdd a wastattâf,

Efe a adeilada Fy ninas, a’m caethion a ollwng efe

Nid am werth na gobrwy;

Medd Iehofah y lluoedd.

14Fel hyn y dywed Iehofah,

Llafur yr Aipht, a marsiandiaeth Ethiopia,

A’r Sabeaid, dynion o faint;

Attat ti y deuant hwy, ac eiddot ti a fyddant,

Ar dy ol di y rhodiant, mewn cadwyni y deuant,

Ac i ti yr ymgrymmant, ac attat y gweddiant.

Yn ddïau, ynot ti (y mae) Duw,

Ac nid (oes) arall, na nid (oes) Duw.

15Yn ddïau, Tydi (wyt) Dduw yn ymguddio,

O Dduw Israel, Iachawdwr.

16Cywilyddiwyd, hyd y nod gwaradwyddwyd hwynt oll,

Ynghŷd yr ânt i waradwydd, (sef) gwneuthurwŷr delwau.

17Israel a gaiff Iachawdwriaeth yn Iehofah âg iachawdwriaeth dragywyddol,

Ni’ch cywilyddir, ac ni’ch gwaradwyddir byth bythoedd.

18Canys fel hyn y dywed Iehofah,

Creawdydd y nefoedd, Efe (sy’) Dduw;

Lluniwr y ddaear a’i Gwneuthurwr, Efe a’i sicrhâodd hi;

Nid yn ofer y creodd Efe hi; i’w phreswylio y lluniodd hi;

Myfi (sydd) Iehofah, ac nid neb amgen.

19 Nid mewn dirgelwch y lleferais, mewn man 2tywyll o’r 1ddaear,

Ni ddywedais wrth hâd Iacob yn ofer, Ceisiwch Fi;

Myfi (wyf) Iehofah, yn llefaru cyfiawnder, ac yn mynegi pethau uniawn,

20Ymgesglwch a deuwch,

Cydnesêwch, rai dïangol oddi wrth y cenhedloedd,

Dim ni ŵyr y sawl a ddyrchafant goed, eu cerf-ddelw,

Ac a weddiant dduw na rydd iachawdwriaeth.

21Mynegwch, a nesêwch (hwynt); ië cydymgynghorent.

Pwy a hyspysodd hyn er cynt, er ystalm a’i mynegodd?

Onid Myfi Iehofah? ac nid (oes) 2Duw 1arall ond Myfi;

Duw cyfiawn, ac Iachawdwr; nid (oes Duw) heblaw Fi.

22Trôwch attaf fel y caffoch iachawdwrieth, holl gyrrau ’r ddaear,

Canys Myfi (sy’) Dduw, ac nid (oes) arall.

23I’m Fy hun y tyngais, aeth allan o’m genau wirionedd,

Gair, ac ni ddychwel,

Mai i Mi y plyga pob glin, y twng pob tafod;

24Yn ddïau yn Iehofah, y dywed (dyn, y mae) i mi gyfiawnder a nerth.

Atto Ef y deuir; a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho:

Yn Iehofah y cyfiawnhêir, ac yr ymffrostia holl hâd Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help