1 Diarhebion Shalomo fab Dafydd, Brenhin Israel;
2I wybod doethineb ac addysg,
I ddeall geiriau synwyr;
3I dderbyn addysg deall,
Cyfiawnder, a barn, ac uniondeb;
4I roddi i’r anghall gallineb,
I’r ieuangc wybodaeth a phwyll:
5Gwrendy ’r doeth, a chwanega addysg,
Ac y deallus, cyfarwyddiadau a ennill efe;
6I ddeall dïarheb a gorchest,
Geiriau ’r doethion, a’u cymmygion.
7Ofn Iehofah (yw) dechreuad gwybodaeth,
Ond doethineb ac athrawiaeth, yr ynfydion a’u dirmygant.
8Gwrando, fy mab, athrawiaeth dy dad,
Ac na ollwng ymaith addysg dy fam,
9Canys pleth raslawn y rhai hyn i ’th ben,
Ac yn fynygldlysau i’th wddf.
10Fy mab, os dy ddenu a wna pechaduriaid,
Nac ymfoddlona;
11Os dywedant, “Tyred gyda ni,
Cynllwynwn am waed,
Ymguddiwn yn erbyn yr ofer-ddiniweid;
12Llyngcwn hwynt, fel annwn, yn fyw,
Ac yn gyfan fel y rhai sy’n disgyn i’r pwll;
13Pob cyfoeth gwerthfawr a gawn ni,
Llanwn ein tai âg yspail;
14Bwrw dy goelbren yn ein mysg,
Un pwrs a fydd i ni i gyd:”
15Fy mab, na rodia ’r ffordd gyda hwynt,
Attal dy droed rhag eu llwybr hwy,
16Canys eu traed i ddrygoni ynt yn rhedeg,
Ac yn prysuro i dywallt gwaed:
17Dïau, yn ofer y taenir rhwyd,
Yngolwg pob perchen aden;
18A’r rhai hyn, am eu gwaed eu hun y cynllwynant hwy,
Ymguddiant am eu heinioes eu hun.
19Felly ffyrdd pob rhai a elwant elw;
Einioes ei berchennog a ddeil efe.
20Doethineb oddi allan sy ’n gwaeddi,
(Ac) yn yr heolydd yn rhoddi ei llais;
21Ym mhen y lleoedd trystfawr y llefa hi,
Yn nrysau ’r pyrth yn y ddinas
Ei hymadrodd a adrodd hi, (sef)
22“Pa hyd o rai anghall, y cerwch chwi anghallineb,
Ac y bydd gwatwarwyr mewn gwatwar yn ymhoffi,
A’r ynfydion yn cashâu gwybodaeth?
23Dychwelwch wrth fy argyhoeddiad!
Wele, rhoddaf i chwi fwrlymiaid o’m hyspryd,
Hyspysaf fy ngeiriau i chwi.
24Am i mi wahodd ac i chwithau wrthod,
I mi estyn fy llaw ac heb neb yn ystyried,
25Ond diddymmu o honoch fy holl gynghor,
A’m hargyhoeddiad na fynnech;
26Minnau hefyd a chwarddaf yn eich distryw chwi,
Gwawdiaf pan ddêl (yr hyn yw) eich arswyd,
27Pan, fel tymhestl, y dêl (yr hyn yw) eich arswyd,
A’ch distryw, fel corwynt, a ddyneso,
Pan ddêl arnoch gyfyngder a gwasgfa.
28Yna y galwant arnaf, ond nid attebaf,
Yn ddiwyd y’m ceisiant ond ni’m cânt,
29O herwydd iddynt gashâu gwybodaeth,
Ac ofn Iehofah na ddewisent,
30Na fynnent mo’m cynghor,
(Ond) dirmygent fy holl argyhoeddiad:
31Gan hynny cânt fwytta ffrwyth eu ffordd,
Ac â’u cynghorion y gorddigonir hwy,
32Canys gwrthgiliad y rhai anghall a ’u lladd,
A dïofalwch yr ynfydion a ’u difetha;
33Ond a wrandawo arnaf fi a drig yn hyderus,
Ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn yr hyn sy ddrwg.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.